Mae rhywun neu rywrai wedi bod yn esgeulus, neu hyd yn oed yn gelwyddog, yn achos Jake Davison yn Plymouth.

Yn ôl y rheolau, mi ddylai fod yn amhosib i rywun fel fo gael trwydded i fod yn berchen ar wn. Hynny, hyd yn oed cyn iddo golli’r hawl am gyfnod ar ôl cael ei gyhuddo o ymosod ar berson arall.

Yn ôl y rheolau, mae meddygon i fod i roi tystiolaeth ynghylch cyflwr meddwl rhywun sy’n gwneud cais am wn ac mae tystion annibynnol i fod i roi gwybodaeth am gymeriad ac agweddau’r ceisiwr.