Ers 7 Awst mae gan bobl yr hawl i gamu i’r dafarn, i gaffi neu fwyty heb orfod twrio yn eu pocedi mewn panig am fwgwd.

Mae clybiau nos hefyd wedi ailagor am y tro cyntaf ers blwyddyn a hanner, gyda rhai pobl ifanc yn profi gwefr llawr dawnsio am y tro cyntaf, a hynny heb wisgo gorchudd wyneb nag ymbellhau yn gymdeithasol.

Ond wrth grwydro drwy siop, neu deithio ar fws neu drên, mae gwisgo mwgwd yn parhau i fod yn ofynnol.