Yn ddiweddar mae Kirsty Williams, y cyn-Weinidog Addysg yn Llywodraeth Cymru, wedi bod yn sôn am y broblem o bobol yn ymosod ar fenywod yn y byd gwleidyddol.

Dywedodd y cyn-wleidydd wrth y BBC fod yr ymosodiadau ar fenywod ar wefannau cymdeithasol yn gwaethygu, ac er na fyddai hi’n annog ei merched i beidio â mynd i fyd gwleidyddiaeth, y byddai’n poeni pe byddent yn penderfynu dilyn llwybr ei gyrfa hi.