Rhaid canfod atebion tymor hir i’r costau ychwanegol ac arafwch yn y gadwyn gyflenwi ers i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl llywydd corff sy’n cynrychioli busnesau yn ne ddwyrain, gorllewin a chanolbarth Cymru.
Ddechrau mis Hydref, fe ddaw rheolau newydd i rym sy’n golygu bod cynhyrchion anifeiliaid a phlanhigion sy’n cael eu mewnforio o’r Undeb Ewropeaidd yn gorfod cael eu gwirio wrth groesi’r ffin. Yn ogystal bydd rhagor o waith papur ynghlwm â’r drefn newydd.