Mae’r gadwyn gyflenwi wedi arafu cymaint nes bod perchennog cwmni cludo yng Nghasnewydd yn rhybuddio nad yw’n gallu cynllunio fwy nag wythnos o flaen llaw.

Ray Clegg yw Rheolwr Gyfarwyddwr a pherchennog cwmni cludiant Alan R Jones a’i Feibion yng Nghasnewydd. Ac fel pob cwmni cludo arall yng ngwledydd Prydain, mae ei gwmni ef yn wynebu “argyfwng” meddai ddechrau’r wythnos.