Mae dynes wedi’i chyhuddo o lofruddio bachgen dwy oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Bydd Natalie Steele, 31, o ystad Broadlands yn y dref yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd heddiw (18 Awst) ar gyhuddiad o lofruddio Reid Steele.

Cafodd Reid Steele ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd nos Fercher diwethaf ar ôl cael ei ganfod mewn eiddo ar ystad Broadlands yn y dref nos Fercher (Awst 11), ond bu farw’r diwrnod canlynol (dydd Iau, Awst 12).

“Mae hwn yn achos torcalonnus i bawb sydd ynghlwm ag e, ac mae fy meddyliau gyda theulu Reid, sy’n parhau i gael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies, sy’n uwch-swyddog ymchwilio gyda Heddlu De Cymru.

“Mae gweithrediadau cyfreithiol wedi dechrau, ac er fy mod i’n gwerthfawrogi bod pryderon yn y gymuned, byddwn yn annog pobol i ymatal rhag damcaniaethu ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae ein hymchwiliad yn parhau, a dylai unrhyw un sy’n meddwl bod ganddyn nhw wybodaeth berthnasol gysylltu ar unwaith.

“Gofynna’r teulu yn barchus am lonydd i alaru ar yr amser anodd hwn.”

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.

Reid Steele

Enwi bachgen dwy oed fu farw ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae dynes 31 oed wedi’i harestio ar amheuaeth o lofruddio Reid Steele o Broadlands yn y dref