Mae sefyllfa’r farchnad dai yn “hollol anghynaladwy”, yn ôl llefarydd tai Plaid Cymru.
Yn ôl Mabon ap Gwynfor, mae’r ystadegau diweddaraf, sy’n dangos cynnydd pellach mewn prisiau, yn brawf pellach fod Cymru ynghanol argyfwng tai, ac nad yw’r farchnad yn adlewyrchu gallu pobol i brynu cartrefi yn eu cymunedau.
Mae ystadegau newydd Rightmove yn dangos mai Cymru sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf ym mhrisiau tai yn y Deyrnas Unedig.
Bu cynnydd o 2.3% dros y mis diwethaf, a chynnydd o 10.9% mewn blwyddyn.
Yn ôl cymdeithas adeiladu Principality, roedd cyfraddau gwerthu ar eu huchaf yn Nhorfaen a Phen-y-bont ar Ogwr (80%).
Roedd tai mewn wyth awdurdod lleol – Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Conwy, Merthyr Tudful, Castell Nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Thorfaen – yn ddrytach nag erioed o’r blaen yn ystod ail chwarter 2021, meddai.
Er hynny, mae yna arwyddion bod y cynnydd sydyn mewn prisiau yn ystod dechrau 2020 wedi dechrau arafu, gan mai cynnydd o 1.4% fu yn ystod yr ail chwarter.
“Afrealistig, annheg ac anghynaladwy”
“Pe bai angen prawf pellach arnom fod Cymru yng nghanol argyfwng tai yna dyma ni,” meddai Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd – lle cafodd 44% o’r tai gafodd eu gwerthu y llynedd eu gwerthu fel ail gartrefi.
“Mae Cymru wedi gweld cynnydd o 2.3% ym mhrisiau tai yn ystod y mis diwethaf yn unig a chynnydd o 10.9% flwyddyn ar ôl blwyddyn yn gyffredinol. Mae pobol yn cael eu prisio allan o’u cymunedau ar gyflymder brawychus.
“Ac nid y Gymru wledig ac arfordirol yn unig sy’n dioddef. Mae’r cymoedd hefyd. Mae enillion wythnosol gros canolrifol yn Nhorfaen, er enghraifft, yn ddim ond £554.58 ond mae wedi gweld un o’r cyfraddau gwerthu uchaf ar 80%.
“Yn y cyfamser, mae disgwyl i bobol ifanc roi miloedd o bunnoedd mewn taliadau er mwyn bod a siawns o brynu eu cartref cyntaf yn eu cymuned leol. Mae’n afrealistig, yn annheg, ac yn gwbl anghynaladwy.
“Yn syml, nid yw’r farchnad dai yn adlewyrchu gallu pobol leol i brynu cartrefi yn eu cymunedau. Ni all y Llywodraeth gladdu eu pennau yn y tywod na chuddio tu ôl i ‘ymgynghoriadau’ neu ‘gynlluniau peilot’.
“Mae angen ymyrraeth frys arnom – yn gyflym – i reoleiddio’r farchnad a mynd i’r afael â’r argyfwng hwn unwaith ac am byth, er mwyn ein cymunedau a’u dyfodol.”