Mae Banc Datblygu Cymru wedi buddsoddi mwy o arian nag erioed o’r blaen mewn datblygu eiddo.
Yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth, fe ddarparodd y banc £48.8m mewn benthyciadau ar gyfer datblygu 37 eiddo – cynnydd o 43% o gymharu â’r flwyddyn gynt.
Hefyd, fe roddon nhw gymorth ariannol i 402 o gartrefi newydd a dros 70,000 troedfedd sgwâr o ofod masnachol.
Fe gafodd Banc Datblygu Cymru ei sefydlu yn 2017 gan Lywodraeth Cymru er mwyn darparu cyllid i fusnesau a datblygwyr gael tyfu.
Mae’r swyddogion sy’n gyfrifol am y banc yn gyfrifol am dair cronfa gwerth cyfanswm o £157m sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth.
‘Cynnig cymaint o gefnogaeth â phosibl’
Mae Cennydd Rowlands, Cyfarwyddwr Banc Datblygu Cymru, yn croesawu’r cynnydd mewn galw am gyllid, gan gyfeirio at yr heriau economaidd yn yr oes sydd ohoni.
“O adeiladau preswyl unigol untro i ddatblygwyr mwy… rydyn ni’n cynnig cymaint o gefnogaeth â phosibl i’r sector eiddo ledled Cymru,” meddai.
“Mae’r cyfuniad o adael yr Undeb Ewropeaidd ac effaith economaidd Covid-19 yn golygu bod datblygwyr yn wynebu heriau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen gyda’u cadwyni cyflenwi a chostau eu deunyddiau.
“Mae ein tîm arbenigol yn deall yr heriau hyn ac yn gallu gweithio gyda datblygwyr i greu dull wedi’i deilwra, gyda hyblygrwydd i gynnig telerau hwy os oes angen.
“Mae’r galw am adeiladau masnachol newydd o ansawdd da yn sicr ar gynnydd yng Nghymru, ac mae hyn wedi creu cyfle i ddatblygwyr bach, lleol ac rydyn ni’n parhau i gynnig cymorth drwy ein cronfeydd datblygu pwrpasol.
“Boed yn ddatblygiad preswyl neu fasnachol, rydyn ni yma ac yn barod i sicrhau’r cytundebau sydd eu hangen ar ddatblygwyr i roi eu prosiectau ar waith.”