Mae rhaglen ffermio cig eidion newydd wedi ei sefydlu i ddatblygu sgiliau yn y maes.
Bydd Coleg Cambria Llysfasi, ger Rhuthun, yn gyfrifol am ddarparu’r rhaglen Cig Eidion Cynaliadwy sydd am roi cyfle i ddysgwyr wella eu dealltwriaeth o’r maes drwy wrando ar gyfres o siaradwyr gwadd, cynnal gweithdai, a derbyn hyfforddiant ymarferol.
Byddan nhw’n manylu ar systemau gwartheg llaeth a gwartheg sugno yn benodol.
Mae’r fenter wedi derbyn cefnogaeth arweinwyr y farchnad, sy’n cynnwys BeefQ, Hybu Cig Cymru a Chyswllt Ffermio, ac fe roddodd Cyngor Sir Dinbych eu cefnogaeth hefyd.
Bydd sesiynau yn digwydd yn rhithiol i ddechrau, ac wyneb yn wyneb pan fydd mesurau iechyd a diogelwch y pandemig yn caniatáu hynny.
“Mae yna lawer o gyfleoedd i symud ymlaen,” meddai Dewi Jones, rheolwr fferm Llysfasi.
“Mae cynhyrchu cig eidion yn rhan hanfodol bwysig o ffermio yng Nghymru felly bydd yn wych i fyfyrwyr Llysfasi gael mynediad i’r cwrs hwn fel rhan o’u hastudiaethau.
“Bydd yn cynnwys profiad ymarferol o fonitro gwartheg bîff, o enedigaeth i’r diweddiad, yma ar fferm y coleg.”