Cafodd 40,000 yn llai o bobol eu derbyn i ysbytai Cymru ar gyfer triniaeth am ganser yn ystod y pandemig.

Mae ystadegau, a ddaeth i law’r Ceidwadwyr Cymreig, yn dangos bod 142,097 o bobol wedi’u derbyn i’r ysbyty gyda chanser rhwng Ebrill y llynedd a Mawrth eleni, o gymharu â 182,653 yn y deuddeg mis blaenorol.

Mae hynny’n ostyngiad o 22%, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynegi pryderon fod gan strategaeth Llywodraeth Cymru i ymdopi â’r pandemig oblygiadau anfwriadol.

Mae’r ystadegau hyn wedi arwain at ofnau fod degau o filoedd o bobol yn byw â chanser heb yn wybod iddyn nhw.

Triniaethau eraill

Mae’r data hefyd yn dangos bod derbyniadau i ysbytai ar gyfer trawiadau ar y galon wedi gostwng 4% rhwng 2019/20 a 2020/21.

Fe wnaeth y derbyniadau ar gyfer strôc a chlefyd siwgr ostwng 6%, a bu gostyngiad o 13% mewn derbyniadau’n ymwneud â dementia.

Bu gostyngiad o 13% yn nifer y bobol a gafodd eu derbyn i’r ysbytai gyda chyflyrau iechyd meddwl hefyd.

O ran y chwe maes hyn gyda’i gilydd, bu gostyngiad o 20% yn y derbyniadau i ysbytai rhwng 2019/20 a 2020/21.

Cafodd mwy o bobol eu derbyn i’r ysbyty ar gyfer trawiad ar y galon, strôc a chlefyd siwgr yn ystod misoedd yr haf y llynedd o gymharu â 2019.

Newidiodd y patrwm hwn erbyn ail don Covid-19 yn yr hydref a’r gaeaf, pan gafodd llai o bobol eu derbyn i ysbytai.

‘Goblygiadau’

Mae Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod angen mynd i’r afael â’r goblygiadau hyn.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod y bu’n rhaid i lywodraethau gymryd camau rhyfeddol i ymdopi â’r feirws y llynedd, ond mae’r niferoedd hyn yn dangos bod goblygiadau i gyfnodau clo a’r angen i ni fynd i’r afael â nhw,” meddai.

“Bydd yna gost ddynol enfawr, yn ogystal â’r gost i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, am orfod ymdopi ag oedi mewn diagnosis ar raddfa mor fawr, felly mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn rhoi’r hyn sydd ei angen i staff gofal iechyd a chleifion fynd i’r afael â hynny ar frys.

“Trwy gydol y pandemig, fe wnaethon ni annog Llywodraeth Lafur Cymru i archwilio ffyrdd eraill o drin cleifion, er enghraifft drwy hybiau sy’n rhydd rhag Covid ac wrth gwrs drwy sicrhau bod mesurau llym mewn grym mewn ysbytai i leihau’r trosglwyddiadau o fewn ysbytai – rhywbeth a wnaeth gwtogi capasiti’r system yn ddiamau.

“Yn anffodus, cafodd y galwadau hyn eu hanwybyddu a’u diystyru gan weinidogion Llafur ac felly mae’r anhwylderau difrifol hyn wedi gwaethygu oherwydd gweithredoedd, neu ddiffyg gweithredoedd, Llywodraeth Cymru.”