Yn dilyn galwadau’n ddiweddar i gynyddu nifer y diffibrilwyr sydd ar gael i’r gymuned, mae ymgyrchydd o Lanberis wedi dweud wrth golwg360 pa mor bwysig yw sicrhau bod y cyfarpar cywir ar gael er mwyn achub bywydau.
Daw’r alwad gan wrthbleidiau gwleidyddol Cymru am ragor o ddiffibrilwyr mewn safleoedd chwaraeon ar ôl i’r chwaraewr rygbi ifanc, Alex Evans, farw mewn gêm rygbi dros y penwythnos.
Daeth galwadau gan Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig i sicrhau bod diffibrilwyr yn cael eu darparu i holl glybiau chwaraeon Cymru yn enwedig.
Mae sawl cymuned ar draws Cymru wedi codi arian i gael y dyfeisiau yma wrth law dros y blynyddoedd, yn cynnwys ardal Dyffryn Peris.
Mae gwaith aruthrol Bryn Roberts yn enwedig wedi sicrhau bod hyd at 22 ohonyn nhw wedi eu gosod yn barod i’w defnyddio mewn argyfwng.
Ymgyrchu
Mae Bryn Roberts o Lanberis wedi ymgyrchu a gwirfoddoli i gynyddu’r nifer o ddiffribilwyr yn ei ardal, gan ddechrau sefydliad Curiad Calon Lleol.
Fe gollodd ei dad i glefyd y galon chwe blynedd yn ôl, ac mae wedi bod yn gweithio’n galed i geisio hybu mesurau ymateb i drawiadau’r galon wrth iddyn nhw ddigwydd.
“Pan gollais i dad chwe blynedd yn ôl i drawiad y galon, doedd yna ddim diffib yn Llanberis ar y pryd,” meddai wrth golwg360.
“Mi wnes i ddechrau Curiad Calon Lleol er cof am Dad i helpu pentrefi bach o gwmpas ardal Dyffryn Peris i hel pres i gael diffib.
“Mae gennym ni 22 allan yna erbyn hyn, a dw i’n mynd rownd yn eu cynnal nhw ac ati.”
Codi arian
Ar ôl i Christian Eriksen, chwaraewr canol cae tîm pêl-droed Denmarc, gwympo’n anwybodol mewn gêm yn yr Ewros oherwydd trawiad y galon, fe wnaeth Bryn Roberts holi clybiau pêl-droed Llanberis a Llanrug a oedden nhw’n dymuno cael diffibrilwyr.
“Cam cyntaf y broses ydy dechrau tudalen JustGiving i godi arian, wedyn rydych chi’n mynd rownd a gofyn i fusnesau lleol am arian i gyrraedd y nod,” meddai.
“Drwy Curiad Calon Lleol, mae gen i gysylltiad efo elusen Cadwch Curiadau, sy’n rhan o Awyr Las, felly does neb yn gwneud proffit o hyn.
“Bydd y diffibs wedyn yn cael eu cadw gan y clybiau yn barod iddyn nhw adeg gêm.
“Munud fyddan ni’n hel y pres i brynu’r ddau diffib, fe fydda i’n rhedeg sesiynau hyfforddi i chwaraewyr a chefnogwyr y ddau glwb.”
Galw am newid
Yn dilyn marwolaeth Alex Evans ar y cae dros y penwythnos, mae nifer o ymgyrchwyr wedi galw i gael mwy o ddiffibrilwyr ar gael i’r gymuned, yn enwedig mewn clybiau chwaraeon.
“Mae’n bwysig iawn,” meddai Bryn Roberts.
“Mae pawb yn meddwl bod trawiad i’r galon ond yn digwydd i bobol hŷn, ond mae yna gymaint o bobol ifanc yn gallu cael o.
“Mi fedrith o ddigwydd ar gaeau chwaraeon – ddim jyst i’r bobol sy’n chwarae, ond i’r cefnogwyr hefyd.
“Mae o’n digwydd erioed ond bod y digwyddiadau diweddar yn dangos i bawb bod o’n digwydd.
“Costus ydy o, dw i’n gwybod, ond mae llefydd fel Ffrainc, Swistir a Norwy efo diffibs rownd bob cornel, ac mae’r ffigyrau o bobol sy’n byw ar ôl cael trawiad lot uwch yn y llefydd hynny.
“Maen nhw’n hyfforddi yn yr ysgolion hefyd, felly mae pawb yn gwybod sut i wneud CPR yno lle, ym Mhrydain, mae lot o bobol yn ofn helpu achos bo nhw ddim efo’r hyfforddiant.
“Mae angen gwneud hynny yn ein hysgolion ni hefyd fel bod hi’n naturiol i bawb wedyn.”