Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd plant a phobol ifanc yn cael cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau chwaraeon, diwylliannol a gweithgareddau chwarae dros yr haf.

Mae’r fenter, sy’n werth miliynau o bunnoedd, yn rhan o gyfres o fesurau a gafodd eu cynllunio i helpu plant a phobol ifanc hyd at 25 oed i ddod atyn nhw eu hunain ar ôl y pandemig.

Mae’r digwyddiadau am ddim, sy’n cael eu cynnal tan Fedi 30, wedi bod yn darparu gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliannol i gefnogi lles cymdeithasol, emosiynol, corfforol a meddyliol plant a phobol ifanc.

Ddoe (dydd Mawrth, Awst 24), ymwelodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, â thri digwyddiad Haf o Hwyl yn Rhondda Cynon Taf.

Roedd y rhain yn cynnwys Sioe Deithiol Chwarae Cymru ym Mharc Mount Pleasant, Amser Hwyl i Deuluoedd ym mhentref Porth a digwyddiad Turn Up and Play o dan ofal Gwasanaeth Ieuenctid YEPS yn Nhonyrefail.

Roedden nhw’n cynnwys digwyddiadau i blant a phobol ifanc megis gemau, celf a chrefft, a chestyll bownsio, i greu ardaloedd i bobol ifanc gyfarfod â ffrindiau a chwrdd â gweithwyr ieuenctid.

‘Llwyddiant ysgubol’

“Ar ôl colli cyfleoedd dros y 18 mis diwethaf i gymdeithasu a chwarae gyda ffrindiau a chyfoedion, rwy’n falch iawn o weld faint o blant a phobol ifanc sy’n mwynhau’r holl wahanol weithgareddau sy’n digwydd diolch i Haf o Hwyl,” meddai Julie Morgan wrth ymweld â’r digwyddiadau.

“Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn diogelu ac yn meithrin lles ac iechyd corfforol ac emosiynol ein plant a’n pobol ifanc.

“Mae’r digwyddiadau a welais heddiw yn enghreifftiau gwych o sut y gallwn gefnogi’r anghenion hyn a helpu plant a phobol ifanc i fagu hyder, i ailafael mewn addysg a dysgu ac ymdrechu i gyrraedd eu potensial llawn.

“Diolch i bawb sydd wedi helpu i wneud yr Haf o Hwyl y llwyddiant ysgubol.”

‘Cyffrous’

Dywedodd y Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Gwasanaethau Plant, ei bod hi’n “falch iawn o gael mynd gyda’r Dirprwy Weinidog o amgylch ein prosiectau Haf o Hwyl yn ein Bwrdeistref Sirol”.

“Mae’r pandemig a’i gyfyngiadau wedi cael effaith fawr ar fywydau pob un ohonom, ac mae’r effaith ar blant a phobol ifanc wedi bod yn amlwg iawn,” meddai.

“Doedd dim modd iddynt fynd i’r ysgol am gyfnodau hir, a gall hynny gael effaith sylweddol ar ddatblygiad cymdeithasol a lefelau gweithgarwch yn ogystal â dysgu.

“Mae llawer hefyd wedi methu â chwrdd wyneb yn wyneb neu gymdeithasu gyda theulu a ffrindiau.

“Mae unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol wedi bod yn broblemau gwirioneddol dros y 18 mis diwethaf ac mae cynllun Haf o Hwyl yn cefnogi ein plant a’n pobol ifanc, gan eu galluogi i gysylltu â’i gilydd ac â’r byd y tu allan unwaith eto, a hynny drwy amrywiaeth o weithgareddau cyffrous.”