Mae ymchwil yn awgrymu bod effeithlonrwydd dau ddôs o frechlyn Covid-19 Pfizer/BioNTech ac AstraZeneca Rhydychen yn gostwng o fewn chwe mis.

Yn y sefyllfa waethaf, mae gwyddonwyr yn rhybuddio y bydd eu heffeithlonrwydd yn cwympo o dan 50% i bobol oedrannus a gweithwyr iechyd erbyn misoedd y gaeaf.

Roedd y brechlyn Pfizer yn 88% yn effeithlon fis ar ôl yr ail ddôs, ond fe gwympodd i 74% ar ôl pum neu chwe mis, sy’n awgrymu bod eu heffeithlonrwydd yn cwympo 14 pwynt canran o fewn pedwar mis.

O ran brechlyn AstraZeneca, roedd y brechlyn yn 77% yn effeithlon ar ôl mis, ond dim ond 67% ar ôl pedwar neu bum mis, sy’n ostyngiad o ddeg pwynt canran dros gyfnod o dri mis.

Cafodd mwy nag 1.2m o brofion a chyfranogwyr eu hasesu fel rhan o’r astudiaeth, ond doedd hi ddim yn rhoi ystyriaeth i’r amrywiolyn Delta sydd wedi cyfrannu at ganran helaeth o achosion.

Yn ogystal, mae gwyddonwyr yn rhybuddio bod angen mwy o ddata er mwyn diweddaru’r astudiaeth yn llwyr, a hynny dros gyfnod hirach o amser hefyd.

Mwy o bobol yn yr ysbyty a mwy o farwolaethau?

Yn ôl yr Athro Tim Spector, arweinydd yr ymchwil oedd yn seiliedig ar ap Zoe Covid, mae modd disgwyl mwy o farwolaethau a mwy o dderbyniadau i’r ysbyty yn ystod misoedd y gaeaf.

“Yn fy marn i, gallai sefyllfa waethaf resymol weld amddiffyniad yn gostwng yn is na 50% ar gyfer yr henoed a gweithwyr gofal iechyd erbyn y gaeaf,” meddai.

“Os oes lefelau uchel o haint yn y Deyrnas Unedig sydd wedi’u gyrru gan lacio cyfyngiadu cymdeithasol ac amrywiolyn trosglwyddadwy iawn, gallai’r sefyllfa hon olygu mwy o dderbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau.

“Mae angen i ni gynllunio ar frys ar gyfer rhagor o frechlynnau, ac yn seiliedig ar adnoddau brechlynnau, benderfynu a yw strategaeth i frechu plant yn synhwyrol os mai ein nod yw lleihau marwolaethau a derbyniadau i’r ysbyty.

“Mae gostyngiad mewn amddiffyniad i’w ddisgwyl ac nid yw’n rheswm i beidio â chael eich brechu.

“Mae brechlynnau’n dal i gynnig lefelau uchel o amddiffyniad ar gyfer rhan fwya’r boblogaeth, yn enwedig yn erbyn yr amrywiolyn Delta, felly mae dal angen i ni frechu cynifer o bobol â phosib.”