Mae teithiau cerdded sydd wedi’u harwain gan bobol sydd wedi bod yn ddigartref yn dod i Gaerdydd.

Mae Invisible Cities, sy’n disgrifio’u hunain fel cwmni teithiau amgen, yn cyflwyno pobol leol ac ymwelwyr i nifer o ddinasoedd ac ardaloedd trefol drwy lygaid pobol sydd wedi bod yn byw ar y strydoedd yn y gorffennol.

Mae’r fenter, sydd wedi’i chefnogi gan y Wallich, wedi bod yn canolbwyntio ar ganol dinasoedd ond mae bellach yn mynd i grombil cymunedau gwahanol ac yn annog pobol i ddarganfod yr hyn sydd ar garreg yr aelwyd.

Fe fu’r cwmni’n cynnig y teithiau yng Nghaeredin, Glasgow, Manceinion a Chaerefrog hefyd.

Mae’r Wallich, sef prif elusen digartrefedd Cymru, yn cynnig llety a chefnogaeth i oddeutu 9,000 o bobol bob blwyddyn, gan helpu rhai o’r bobol fwyaf bregus i fyw bywydau mwy diogel ac annibynnol.

‘Gwerthfawrogi ein hardaloedd lleol o’r newydd’

“Bob blwyddyn, rydyn ni’n mynd â miloedd o dwristiaid a phobol leol ar ein teithiau, ond os oes yna un peth mae cyfnodau clo wedi’i ddysgu i ni, hynny yw gwerthfawrogiad o’r newydd o’n hardaloedd lleol,” meddai Zakia Moulaoui Guery, prif weithredwr a sylfaenydd Invisible Cities.

“Tan nawr, rydyn ni wedi bod yn dueddol o ganolbwyntio ar ganol dinasoedd neu ardaloedd hygyrch, ond rydyn ni wedi sylweddoli bod ein hardaloedd lleol, ein cymdogaethau a rhai llefydd llai adnabyddus hefyd yn werth eu harchwilio.

“O ganlyniad, rydyn ni wedi creu Invisible Neighbourhoods ac wedi curadu cyfres o deithiau newydd cyfareddol yn manylu ar ffeithiau diddorol iawn a lleoliadau a fydd yn apelio i unrhyw un sy’n ymweld â’r ardaloedd bywiog hyn neu’n byw ynddyn nhw.”