Mae Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi gwrthod ymestyn y dyddiad ar gyfer gadael Affganistan, gan ddweud y byddai’n peri risg ychwanegol i’r milwyr yno.

Roedd Boris Johnson ynghyd ag arweinwyr eraill y G7 wedi galw arno i ymestyn y dyddiad y tu hwnt i Awst 31.

Mae’r penderfyniad yn golygu nad oes gan y Deyrnas Unedig lawer o amser ar ôl i adael y wlad gan fod milwyr yr Unol Daleithiau yn darparu diogelwch ym maes awyr Kabul i ganiatáu i bobol ffoi.

Roedd Boris Johnson wedi gobeithio perswadio Joe Biden i gadw lluoedd Americanaidd yn y wlad y tu hwnt i Awst 31 er mwyn caniatáu mwy o amser i gynnal ymgyrchoedd gadael, er bod yr Ysgrifennydd Amddiffyn Ben Wallace wedi cydnabod cyn y trafodaethau fod estyniad i’r dyddiad yn “annhebygol”.

Dywed Boris Johnson fod “golygfeydd dirdynnol” ym maes awyr Kabul i’r rhai sy’n ceisio ffoi o Affganistan, gan ychwanegu y byddai gweithredoedd y Deyrnas Unedig yn “parhau hyd at y funud olaf y gallwn”.

Dywed ei fod yn “hyderus” o gael miloedd yn fwy o bobol allan o Affganistan, ond ei bod hi’n “anodd i’n lluoedd arfog hefyd”.

Mae’r Taliban wedi rhybuddio na fyddan nhw’n caniatáu i bobol ffoi o’r wlad y tu hwnt i Awst 31, na chwaith yn caniatáu i luoedd arfog tramor aros yn Affganistan.

‘Gorau po gyntaf y gallwn orffen’

“Roedd cytundeb cryf ymhlith yr arweinwyr am yr ymgyrch i ddianc yn ogystal â’r angen i gydlynu ein hymagwedd at Affganistan wrth i ni symud ymlaen,” meddai Joe Biden wrth ohebwyr.

“Yn gyntaf, wrth adael, cytunwyd y byddwn yn parhau â’n cydweithrediad agos i gael pobol allan mor effeithlon a diogel â phosibl.

“Ar hyn o bryd rydym yn mynd i orffen erbyn Awst 31; gorau po gyntaf y gallwn orffen.”

Roedd datganiad ar y cyd gan arweinwyr gwledydd y G7 – Canada, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Japan, y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau – yn ailddatgan eu hymrwymiad i bobol Affganistan.

“Mae cyfreithlondeb unrhyw lywodraeth yn dibynnu ar y dull y mae’n ei gymryd yn awr i gynnal ei rwymedigaethau a’i ymrwymiadau rhyngwladol i sicrhau Affghanistan sefydlog,” meddai.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn neithiwr (nos Fawrth, Awst 24) fod tua 9,226 o bobol bellach wedi cael eu cludo o Kabul ers dydd Gwener (Awst 20).

Fodd bynnag, dywedon nhw na fydden nhw’n gwneud sylw am adroddiadau yn y Guardian, sy’n awgrymu y gallai’r gwacáu ddod i ben o fewn 24 i 36 awr.

Dywedodd y papur newydd fod angen dau neu dri diwrnod ar luoedd yr Unol Daleithiau i gau eu gweithrediadau yn y maes awyr yn Kabul, a bod milwyr Prydain yn anelu at fod o leiaf 24 awr o’u blaen – gan adael ffenestr fach ar gyfer yr hediadau sy’n weddill.