Tros y flwyddyn ddiwethaf mae’n amlwg fod Mark Drakeford wedi torri cwys ei hun gan arwain Cymru ar lwybr gwahanol i San Steffan.

Ond nid yw Prif Weinidog Cymru am ddilyn trywydd ei hun pan mae ymchwiliad cyhoeddus yn y cwestiwn.

Yn hytrach, mae am weld Cymru’n rhan o ymchwiliad cyhoeddus y Deyrnas Unedig a fydd yn cynnwys Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Eisioes mae Boris Johnson wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Ngwanwyn 2022.