Efo adroddiad rhyngwladol y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn dweud yn blaen bod rhaid rhoi’r gorau i chwarae o gwmpas efo’r pwnc yma, roedd Leena Farhat yn pwysleisio bod hynny’n cynnwys Cymru. Ei neges i’r Llywodraeth ydi fod angen gweithredu, nid siarad …
“Ble mae’r ddeddf awyr iach? Cyllid ar gyfer ôl-addasu ein stoc tai? Safiad cadarn i wahardd ffracio?… Beth am y trenau diesel newydd a allai fod wedi mynd ar hydrogen? Grantiau ar gyfer ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy? Bargeinion gwyrdd ar gyfer adfer diwydiant Cymru? Dyw atal adeiladu ffyrdd ddim yn ddigon. Rhaid i ni ddeddfu gyda theimlad o argyfwng amgylcheddol. Rhaid i Lafur Cymru sefyll yn y bwlch cyn ei bod yn rhy hwyr.” (thenational.wales)
Ond, yn ôl John Dixon, chwarae o gwmpas yr oedd Prif Weinidog ein llywodraeth arall ni, Boris Johnson, wrth wneud ‘jôc’ am gyfraniad amgylcheddol cau pyllau glo yn yr 1980au …
“Doedd cau’r pyllau dan Thatcher ddim oll i’w wneud â lleihau’r defnydd o lo; dim ond symud y cynhyrchu i wledydd eraill. Ond, gan ddilyn ei resymeg od am y tro, roedd yn tanbrisio ei gyfraniad mwy na bychan ef at leihau ôl-troed carbon y Deyrnas Unedig. Wedi’r cyfan, oni bai am y ffordd y deliodd â’r pandemig Covid, byddai degau o filoedd yn rhagor o bobol oedrannus yn fyw heddiw yn llosgi tanwydd ffosil i gadw’n gynnes… a ddylen ni ddim anghofio y bydd y bwriad i ddileu’r cynnydd Credyd Cyffredinol yn lleihau gallu gwario miliynau o bobol, gan ostwng y galw am nwyddau a gwasanaethau a’r gost garbon o’u cynhyrchu nhw.” (borthlas.blogspot.com)
Ond draw yn yr Alban, roedd Peter McColl yn gweld gwersi mewn gêmau … y rhai Olympaidd … a’r ffordd y llwyddodd GB i droi methiant dychrynllyd 25 mlynedd yn ôl yn llwyddiant diweddar, gan wario a thargedu …
“…mae delio â newid hinsawdd wedi bod yn debyg i agwedd tîm Prydain Fawr at Gêmau Olympaidd 1996. I ddechrau, roedd yn fater o weithredu unigol – yn union fel yr oedd athletwyr unigol i fod i gynnal eu hunain i lwyddo, felly yr oedden ninnau i fod i wneud dewisiadau personol i achub y blaned. Doedd hynny ddim am weithio mewn chwaraeon nag o ran gostwng gollyngiadau carbobn. Rydym bellach yn nwfn yn yr argyfwng. Rhaid i ni newid. Ac mae hynny’n golygu creu cynllun a chefnogi’r gweithredu angenrheidiol. Mae’n golygu adnabod y pethau fydd yn gweithio – fel atal cloddio am danwydd ffosil. Ac mae’n golygu anwybyddu’r pethau ymylol – fel hap-dechnolegau i lyncu carbon.” (bellacaledonia.org.uk)
Ond waeth gorffen efo gêm go-iawn … rygbi … a thaith siomedig, ddiflas, y Llewod yn Ne Affrica a hynny, trwy anlwc chwaraewyr heddiw, union 50 mlynedd wedi’r daith enwog i Seland Newydd.
“Ychydig o chwaraeon sy’n gallu cynhyrchu timoedd y gallwch eu cofio dim ond o flwyddyn y daith – mae 1971 ac 1974 wedi eu cerfio yn chwedloniaeth rygbi – a dyw hynny ddim yn dibynnu’n llwyr ar ennill, ond hefyd sut y gwnaed hynny. Mae’r chwaraewyr yn y genhedlaeth honno – mewn oes o amaturiaid, mae’n wir – wedi eu gosod ar bedestal hanes y gêm hefyd. Nid oherwydd eu holl fuddugoliaethau, ond y diwylliant a sefydlon nhw, yn cystadlu yn erbyn pêl-droed am wir deitl y ‘gêm brydferth’. R’yn ni wedi dechrau colli golwg ar brydferthwch rygbi yn yr wythnosau diwetha’.” (Theo Davies-Lewis yn thenational.wales)