Diwrnod Agored Trewern Fawr

Daeth 140 o ymwelwyr i Drewern Fawr ger Llangeitho ddydd Sul i ddiwrnod gardd agored. Mae teulu’r garddwr adnabyddus Huw Richards wedi bod yn byw yno ers dros ugain mlynedd bellach ac wedi datblygu’r tyddyn dros y blynyddoedd.

Roedd holl elw’r diwrnod yn mynd tuag at elusen canser, a chafwyd y cyfle i grwydro’r gerddi, gweld y berllan a chael dished o de a sgwrs cyn gadael. Yn ôl Huw: “Mae’n neis gweld diddordeb mawr mewn tyfu bwyd, nifer o’r ymwelwyr yn newydd i dyfu bwyd, a rhai ar fin dechrau.” Mae mwy o hanes y diwrnod a lluniau ar Caron360.

20210808_134954_resized

Diwrnod Agored Trewern Fawr 

Enfys Hatcher Davies

Gerddi teulu Huw Richards yn croesawu 140 o ymwelwyr.

Yr edafedd sy’n ein clymu

Mae Côr Gobaith wedi bod yn brysur yn y misoedd diwethaf yn cydweithio ar brosiect crefft gyda’i gilydd. Mae’r clytwaith yn gofnod o’r deunaw mis rhyfedd sydd wedi bod, ac yn ddathliad hefyd o bymtheg mlynedd cynta’r côr, ac mae pob sgwâr wedi’i greu gan aelod o’r côr, i gynrychioli’r hyn y mae’r côr yn ei olygu iddyn nhw.

Mae’r darn gorffenedig yn cynnwys brodwaith cywrain, applique, gwau a phaentio, ar bob math o ddefnydd, ac mewn amrediad o liwiau. Mae rhai yn cynnwys geiriau cân neu’n cyfeirio at ymgyrch neu ddigwyddiad penodol.

“Mae gwe pry’ cop yn dechrau gydag un edefyn ond yn gorffen fel strwythur perffaith” – mae’r cwilt yn cynrychioli Côr Gobaith i’r dim – grŵp o unigolion sy’n dod ynghyd i greu côr sy’n canu dros y pethau sy’n bwysig iddynt – yr amgylchedd, heddwch, hawliau dynol a chymdeithas deg a chyfartal. Mae lluniau arbennig o’r cyfan ar BroAber360.

234172146_10159689052244673

Yr edafedd sy’n ein clymu

Côr Gobaith

Prosiect cyfnod clo Côr Gobaith

Gwobr y Bobl Y Lle Celf i Rhiannon Gwyn

Mae artist o Fethesda wedi ennill Gwobr y bobl ‘Y Lle Celf’ yn yr Eisteddfod Amgen eleni. Mae gwaith Rhiannon Gwyn i’w weld ochr yn ochr â chelf gan yr artistiaid Manon Awst, Siân Barlow, John Gareth Miles, Gwen Evans a mwy.

Bydd rhai ohonoch yn cofio nad dyma’r wobr eisteddfodol gynta i Rhiannon ennill eleni, ar ôl iddi gipio teitl ‘Prif Artist’ Eisteddfod T yr Urdd ym mis Mai. Fel ei llwyddiant yn gynharach eleni, mae’r gwaith sydd wedi sicrhau ei gwobr ddiweddaraf yn adlewyrchu dylanwad y chwarel ar Ddyffryn Ogwen.

I wybod beth oedd yr ysbrydoliaeth i’r gwaith, ewch i Ogwen360, a phorwch y gwefannau bro eraill i weld y llu o enillwyr lleol.

Gwobr y Bobl Y Lle Celf i Rhiannon Gwyn

Carwyn

Llwyddiant yr artist o Sling yn yr Eisteddfod Amgen 

 

Straeon bro poblogaidd yr wythnos

  1. Coron Llanybydder yn mynd i brifardd â chysylltiad â’r pentref, gan Rhiannon Lewis ar Clonc360
  2. Diwedd cyfnod yng Nghapel Maesyffynnon Llangybi, gan Rhys Bebb Jones ar Clonc360
  3. Lleucu o Dole yn cipio Medal Daniel Owen 2021, gan Mererid ar BroAber360