Mae rhiant i blentyn sydd â ffibrosis systig yn galw am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru.

Yn ôl Hazel Morgan roedd profiad ei merch Brodie, 17, tra yn cysgodi yn ystod y pandemig yn “warthus” oherwydd diffyg cyfathrebu Llywodraeth Cymru ac archfarchnadoedd ar gyfer rhestrau blaenoriaeth i gael nwyddau o siopau.

“Fe wnaethon ni wir gael hi’n anodd cael mynediad at restrau siopa blaenoriaeth yn ystod y pandemig ac roedd y gwasanaeth hwnnw’n hanfodol i ni er mwyn ei chadw hi’n ddiogel,” meddai Hazel Morgan.

“Doedden ni ddim yn gallu mynd i’r siopau i brynu bwyd, felly roedd archfarchnadoedd fod i gynnig rhestrau blaenoriaeth os oeddech ar restr cysgodi’r llywodraeth.

“Ond doedden ni ddim yn gallu cael gafael ar yr archfarchnadoedd ar y rhestrau hynny.”

Gwael

Yn ôl elusen Asthma UK a Sefydliad Ysgyfaint Prydain bu cyfathrebu gwael rhwng Llywodraeth Cymru ac archfarchnadoedd ynghylch pwy oedd ar y rhestr flaenoriaeth i gael nwyddau o’r archfarchnad.

Roedd modd i deuluoedd fel yr un dan sylw gofrestru yn Lloegr, ond nid yng Nghymru, er bod system gofrestru ar gyfer pobol fu’n cysgodi.

Ddoe (Awst 24) fe gyhoeddodd yr Alban ei bwriad i gynnal ymchwiliad penodol ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod yn rhan o ymchwiliad ledled y DU.

Yn ôl Hazel Morgan mae am weld ymchwiliad penodol i Gymru fel nad yw’r un camgymeriadau yn cael eu gwneud yn y dyfodol.

“Yn sicr mae angen ymchwiliad annibynnol i Gymru.

“Do, fe wnaeth Lywodraeth Cymru y penderfyniad cywir a doeth wrth ddweud wrth bobl fregus i gysgodi, ond  mae angen edrych yn ôl ar bryderon pobl fel fi a fy merch wrth edrych i’r dyfodol,” meddai.

Pasta

“I bob pwrpas oedden ni’n ddibynnol ar barseli bwyd y llywodraeth oedd yn cael eu danfon atom bob wythnos a oedd yn cynnwys bagiau te, bwydydd mewn tuniau a bagiau o basta.

“Yr unig bethau ffres oedd y tatws neu afalau.

“Ond buon ni’n lwcs ein bod ni mewn ardal ddinesig,  ac o ddiolch i deulu a ffrindiau hael roedd yna bobl yno oedd yn gallu cynnig cymorth i ni.

“Er, roedd gofyn i bobl o hyd yn anodd yn enwedig pan oedden nhw am gadw eu hunain yn ddiogel.

“Beth am y sawl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig? Mae’n siŵr ei bod nhw wedi ei chael hi’n anodd.”

Fe ddaeth Brodie allan o’i chyfnod o gysgodi ym mis Chwefror 2021 ond mae ei hiechyd meddwl wedi ei effeithio dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae’r cyfnod wir wedi effeithio ei hiechyd meddwl. Pan chi’n 15 mae cymdeithasu mor bwysig, ac mae hi nawr 17 ac felly mae hi wedi colli blwyddyn a hanner o ddatblygiad,” meddai Hazel Morgan.

Profiadau

Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn ystyried cynnig Llywodraeth yr Alban ochr yn ochr â’n hymgysylltiad parhaus â Llywodraeth y DU ar fanylion yr ymchwiliad pedair gwlad.

“Rydym yn ceisio ymrwymiad y bydd yr ymchwiliad pedair cenedl yn ymdrin yn gynhwysfawr â gweithredoedd Llywodraeth Cymru a phrofiadau pobl Cymru.”

Ategu’r alwad am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru

Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru ddilyn esiampl yr Alban, meddai pennaeth Asthma UK a Sefydliad Ysgyfaint Prydain yng Nghymru