Mae pobol yn cael eu hannog i fynegi eu barn am effaith ail gartrefi a llety gwyliau.

Rhai o’r newidiadau posib fyddai i awdurdodau lleol godi trethi cyngor uwch ar eu perchnogion.

Mae’r ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar y dreth gyngor ac ardrethi annomestig yn rhan o ‘haf o weithredu’ er mwyn mynd i’r afael ag effaith ail gartrefi ar rai cymunedau.

Gall perchnogion ail gartrefi a phobol sy’n aros mewn llety gwyliau wneud cyfraniad pwysig i’r economi leol, meddai Llywodraeth Cymru, ond maen nhw am sicrhau bod pob perchennog tŷ a busnes yn gwneud cyfraniad teg i’r cymunedau.

Yr wythnos ddiwethaf, bu ymgyrchwyr iaith yn datgan nad yw Cymru ar werth drwy gario baneri i rai o gopaon Cymru.

Daeth i’r amlwg hefyd fod prisiau tai wedi codi ynghynt yng Nghymru na’r un wlad arall yn y Deyrnas Unedig mewn blwyddyn.

Ymgynghoriad

Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn am y lefel uchaf y gall awdurdodau lleol osod cyfradd uwch y dreth gyngor arni ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.

Bydd hefyd yn holi barn pobl am y meini prawf sy’n cael eu defnyddio er mwyn i eiddo gael ei ddiffinio fel llety hunanddarpar annomestig.

Cymru yw’r unig wlad o hyd yn y DU sydd wedi rhoi pŵer i awdurdodau lleol godi cyfradd uwch o 100% ar gyfer y dreth gyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor (sef y rhai sydd wedi bod yn wag ers dros flwyddyn).

Gellir defnyddio’r incwm ychwanegol hwn i roi sylw i faterion sy’n effeithio ar gyflenwad tai fforddiadwy neu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a chyfleusterau eraill megis trafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn pobl am sut y caiff eiddo ei ddynodi’n fusnes hunanddarpar a’i restru ar gyfer ardrethi annomestig.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod o hyd i’r farn am y lefel y gall awdurdodau lleol osod cyfradd uwch ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor.

Fe fydd hefyd yn holi barn pobol am y meini prawf sy’n cael ei ddefnyddio er mwyn i eiddo gael ei ddiffinio fel llety hunanddarpar annomestig.

Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sydd wedi rhoi pŵer i awdurdodau lleol godi cyfradd uwch o 100% ar gyfer y dreth gyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor.

Mae’n bosib defnyddio’r incwm hwnnw i roi sylw i faterion sy’n effeithio ar gyflenwad tai fforddiadwy, neu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a chyfleusterau eraill megis trafnidiaeth gyhoeddus.

‘Tecach’

“Rydym yn awyddus i glywed gan bobol sy’n byw mewn cymunedau sy’n teimlo effaith y materion hyn yn ogystal â pherchnogion ail gartrefi a llety gwyliau, cynrychiolwyr y diwydiant hunanddarpar a thwristiaeth, ac awdurdodau lleol,” meddai’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Lleol Rebecca Evans.

“Rydym yn rhagweld y byddwn yn cael ystod eang o ymatebion. Bydd pob un o’r ymatebion hyn yn llywio ein polisïau yn y dyfodol o ran newidiadau posibl i drethi lleol er mwyn sicrhau system decach i bawb.”

“Peryglu cynaliadwyedd y Gymraeg”

“Rydym yn trysori ein henw da yng Nghymru fel cymdeithas ddwyieithog, groesawgar y mae gan dwristiaeth a pherchnogion ail gartrefi presennol gyfraniad i’w wneud ati,” meddai’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, a lansiodd y rhaglen ‘haf o weithredu’ fis diwethaf.

“Serch hynny, rydym hefyd yn cydnabod yr effaith y gall niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau hunanddarpar ei chael ar y farchnad dai a’r farchnad rentu leol ac ar gynaliadwyedd cymunedau lleol. Mewn rhai ardaloedd, fe allen nhw beryglu cynaliadwyedd y Gymraeg fel iaith gymunedol.”

Ychwanegodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, fod “sicrhau bod pobl leol yn gallu byw yn y cymunedau lle cawsant eu magu, a sicrhau iechyd a bywiogrwydd y Gymraeg fel iaith gymunedol sy’n mynd o nerth i nerth yn brif flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru.”

Bydd yr ymgynghoriad ar agor nes 17 Tachwedd.

Cyhuddo Llywodraeth Cymru o “fychanu cymunedau Cymru” ar ail gartrefi

Nid yw ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn “gosod allan y camau clir, pendant a radical sydd eu hangen” medd Cymdeithas yr Iaith