Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo’r Llywodraeth o “fychanu cymunedau Cymru” yn sgil eu hymgynghoriad ar drethi ail gartrefi.

Bwriad yr ymgynghoriad a gafodd ei gyhoeddi heddiw (25 Awst) gan Lywodraeth Cymru yw “ystyried newidiadau posibl i drethi lleol er mwyn helpu awdurdodau lleol i reoli effaith ail gartrefi a llety hunanddarpar ar eu hardaloedd.”

Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud mai “dim ond ceisio barn ar gwestiynau penagored mae’r ymgynghoriad, yn lle gosod allan y camau clir, pendant a radical sydd eu hangen” mae’r ymgynghoriad.

Mae’r Gymdeithas yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu o ddifrif drwy osod cap ar nifer yr ail dai a thai gwyliau mewn unrhyw gymuned.

“Nawddoglyd”

Ynghyd â hynny, mae’r mudiad iaith wedi mynegi pryderon ynghylch rhagair yr ymgynghoriad gan ei alw’n “nawddoglyd”.

“Er nad yw’n broblem i Gymru gyfan, mae nifer yr ail gartrefi a’r llety gwyliau wedi ennyn teimladau cryf mewn rhannau o Gymru,” meddai’r rhagair.

“Mae’n ddigalon gweld fod Llywodraeth Cymru yn dewis israddio argyfwng tai ledled Cymru drwy gyfyngu ar ei diffiniad o effaith daearyddol a dioddefwyr yr argyfwng,” meddai Elin Hywel, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith.

“Nid testun sylw a thrafodaeth yw’r argyfwng tai ond bygythiad i allu miloedd o ddinasyddion Cymru i sefydlu cartref.

“Mae teimlad fod y Llywodraeth yn parhau i gymryd effeithiau’r argyfwng yn ysgafn.

“Dim ond ceisio barn ar gwestiynau penagored mae’r ymgynghoriad hwn, yn lle amlinellu’r camau clir, pendant a radical sydd eu hangen.

“Wrth honni’n nawddoglyd fod yr argyfwng yn ‘ennyn teimladau cryf’, mae ymgynghoriad y Llywodraeth yn bychanu cymunedau Cymru drwy israddio difrifoldeb yr argyfwng.

“Mae pobl gyffredin ar draws Cymru’n teimlo’n gynyddol anobeithiol ac yn crefu ar eu Llywodraeth i’w gwarchod rhag effeithiau’r farchnad agored sy’n chwalu eu cymunedau a’u cyfleoedd nhw i gael cartref. Nid mater haniaethol yw’r argyfwng tai, ond yn hytrach, anghyfiawnder sy’n cael effaith uniongyrchol ar bob agwedd o fywyd dyddiol.”

“Pecyn radical”

Yn dilyn y rali Nid yw Cymru ar Werth ar argae Tryweryn fis diwethaf, mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu ail rali, y tro hwn ar risiau’r Senedd ar 13 Tachwedd.

“Os ydy’r Llywodraeth o ddifrif o ran taclo’r argyfwng tai ar hyd a lled Cymru, mae angen iddyn nhw gyflwyno pecyn radical o fesurau, a gwneud hyn fel mater o frys,” ychwanegodd Elin Hywel.

“Yn ogystal â gweithredu ar y cynigion ymgynghorol yma, rhaid gosod cap ar nifer yr ail dai a thai gwyliau mewn unrhyw gymuned, rheoleiddio AirBnB a chyflwyno trethi newydd ar dwristiaeth, elw landlordiaid, ac ail dai, gan fuddsoddi’r arian mewn dod â thai gweigion ac ail dai yn ôl i ddefnydd pobl leol.

“Rydan ni hefyd yn galw am Ddeddf Eiddo fydd yn rhoi rheolaeth gymunedol ar y farchnad dai a’r broses gynllunio, newid y diffiniad o dai fforddiadwy, rheoli prisiau tai a rhent a rhoi blaenoriaeth i bobl leol yn y farchnad.”

Cyfle i bobol ddweud eu dweud am godi trethi lleol ar ail gartrefi a llety gwyliau

“Sicrhau bod pobl leol yn gallu byw yn y cymunedau lle cawsant eu magu, a sicrhau bywiogrwydd y Gymraeg” yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru