Mae pryderon wedi’u codi yn sgil prinder tiwbiau profi gwaed yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r tiwbiau sy’n cael eu defnyddio i anfon samplau gwaed i labordai i’w profi yn cael eu cynhyrchu gan gwmni BD yn yr Unol Daleithiau.
Ond mae problemau byd-eang gyda’r gadwyn gyflenwi.
Mae’r prinder yn effeithio ar Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi cyflwyno canllawiau newydd i ymdopi â’r sefyllfa.
Maen nhw’n cynghori gohirio profion fitamin D dros dro ac mae angen aros yn hirach na’r arfer rhwng pob prawf gwaed rheolaidd pan fo hynny’n ddiogel yn glinigol.
Alergedd
Mae hynny yn debyg o gael effaith ar brofion ffrwythlondeb ac alergedd.
Mae’r BBC yn adrodd fod meddygon teulu’n dweud eu bod nhw wedi cael cyngor i gyfyngu ar rai profion gwaed oherwydd y prinder.
Mae pob meddygfa yng Nghymru wedi cael cyngor i beidio â chadw gormodedd o diwbiau wrth gefn, a bydd profion gwaed yn cael eu blaenoriaethu i’r cleifion risg uchel – fel y rheiny sydd â chyflyrau difrifol, lle bydd canlynaidau profion gwaed yn effeithio ar y ffordd y mae’r cyflwr yn cael ei reoli.
Y gobaith yw mai problem dros dro fydd y prinder tiwbiau.
Blaenoriaethu
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, bod y gwasanaeth iechyd wedi cyhoeddi canllawiau newydd er mwyn sicrhau bod digon o brofion ar gael i gleifion sydd angen rhai ar frys.
“Diogelwch cleifion yw’r flaenoriaeth o hyd, ac ni fyddai prawf yn cael ei ohirio oni bai bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi asesu ei bod yn glinigol ddiogel gwneud hynny,” meddai.
“Dylai pobl sydd angen gofal brys barhau i’w geisio fel arfer.”
Mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi dweud eu bod nhw a Llywodraeth Cymru yn cydweithio â gwledydd eraill y deyrnas Unedig i geisio datrys y broblem a dod o hyd i gynnyrch arall addas.