Mae Cymru’n darparu cyfarpar diogelu personol i Namibia er mwyn atgyfnerthu’r frwydr fyd-eang yn erbyn Covid-19.

Mae gwerth £7.2 miliwn o fasgiau, gynau a hylif diheintio dwylo, nad oes mo’u hangen yng Nghymru, wedi cael eu rhoi i’r wlad.

Yn ogystal, mae grant gwerth £500,000 wedi’i roi i Namibia i’w wario ar gyfarpar ocsigen a hyfforddiant i nyrsys.

Ar hyn o bryd, mae Namibia ynghanol trydedd don o’r pandemig, ac mae’r don hon wedi amlygu diffygion difrifol yn seilwaith iechyd y wlad.

Mae perthynas dda rhwng Cymru a Namibia ers tro, gyda’r ddwy wlad â phoblogaethau tebyg.

Fel rhan o’r pecyn, bydd dros 1.1 miliwn o fasgiau wyneb yn cael eu rhoi i’w wlad, 500,000 o ynau, 100,000 o ffedogau amddiffynnol a gwerth dros £1 miliwn o hylif diheintio dwylo.

Ocsigen

Bydd y grant hefyd yn helpu i fynd i’r afael â’r broblem ddifrifol sydd gan Namibia gyda chyflenwad ocsigen a diffyg pobol sydd â’r sgiliau i ddarparu ocsigen ar y funud.

Bydd y cyfarpar yn cael ei roi drwy Brosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd ac mae’n dilyn grant cynharach a gafodd ei roi i godi ymwybyddiaeth o’r angen am frechu yn erbyn Covid-19 yn Namibia.

Mewn cyfarfod rhwng yr Athro Kenneth Matengu o Brifysgol Namibia a Mark Drakeford fis Mehefin, bu’r ddau’n trafod y grant.

Disgrifiodd yr Athro Matengu sefyllfa ddychrynllyd yn y wlad, gyda staff y Brifysgol yn marw’n ddyddiol a’r ysbytai’n methu ymdopi.

Ar ôl y cyfarfod, gofynnodd y Prif Weinidog i’r Gwasanaeth Iechyd a oedd unrhyw gyfarfod diogelu personol a allai gael ei anfon i Namibia.

“Dyletswydd”

“Rwyf wedi clywed yn uniongyrchol o Namibia am y sefyllfa eithriadol o anodd yno yn y frwydr yn erbyn COVID-19,” meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford.

“Mae dyletswydd arnon ni i helpu’r rhai mewn angen ac rwy’n falch bod Cymru yn camu ymlaen i frwydro yn erbyn bygythiad byd-eang y coronafeirws.

“Bydd Cymru yn sefyll ochr yn ochr â Namibia a byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi drwy’r cyfnod anodd hwn.”

“Problem ddifrifol”

“Mae Cymru ac Affrica, rhaglen datblygu rhyngwladol Llywodraeth Cymru dan arweiniad y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt, yn brosiect arbennig ac yn esiampl i’r byd o’r math hwn o brosiect,” ychwanegodd yr Athro Judith Hall o Brifysgol Caerdydd ac Arweinydd Prosiect Phoenix.

“Mae Prosiect Phoenix yn falch iawn o fod yn danfon y cyfarpar diogelu personol ac yn rheoli’r grant ocsigen ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae gan Namibia broblem ddifrifol o ran cyflenwad ocsigen a diffyg pobl sydd â’r sgiliau i ddarparu ocsigen i achub bywydau’r rhai sydd â haint COVID-19 difrifol.

“Bydd y cyfraniadau hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr a chynaliadwy i bobl Namibia ac yn y tymor byr bydd yn achub miloedd o fywydau.”