Mae’r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd yn ceisio mynd at wreiddiau cynhesu byd-eang drwy annog pobl i blannu coed yn eu gerddi.

Yn ôl Lee Waters AoS mae Cymru “ymhell tu ôl i ble ni angen bod” ar dargedau presennol y llywodraeth.

Mae’n debyg bod angen plannu 86 miliwn o goed erbyn 2030 – targed y mae’n cydnabod sy’n “heriol dros ben i ni oll”.