Mae bron i 180 o bobl wedi bod yn sâl ar ôl bwyta swp gwael o ‘pork scratchings’ sy’n gysylltiedig â salmonela.

Cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ei bod yn galw pob pecyn o Mr Porky, Jay’s a The Real Pork Crackling Company sy’n dyddio mis Chwefrof y flwyddyn nesaf, yn ôl.

Mae’r cynhyrchion wedi’u cysylltu’n ôl ag un o ffatrïoedd Tayto yn Bolton ac mae’r rhai a wnaed ers mis Chwefror wedi cael eu galw’n ôl a’u tynnu o’u gwerthu, tra bod cynhyrchu ar y safle hefyd wedi’i atal yn wirfoddol.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud bod 176 o achosion o wenwyn salmonella  ar draws y DU ers mis Medi diwethaf gydag o leiaf 12 o’r achosion hyn cael eu trin yn yr ysbyty.

Gwenwyn

Gall salmonella gael ei ledu o berson i berson felly fe ddylai pobl sicrhau eu bod yn golchi eu dwylo’n drylwyr yn ogystal ag osgoi paratoi bwyd os ydynt â symptomau.

Dywedodd Tina Potter, pennaeth digwyddiadau’r Safonau Asiantaeth Fwyd: “Mae’n bwysig iawn bod defnyddwyr yn dilyn y cyngor hwn er mwyn osgoi’r risg o fynd yn sâl gyda gwenwyn salmonela.”

Mae symptomau yn cynnwys dolur rhydd, crampau stumog, cyfogi, chwydu a thwymyn.

Gall symptomau fod yn fwy difrifol ac arwain at dderbyn cleifion i’r ysbyty, yn enwedig pobl ifanc iawn a’r rhai sydd â systemau imiwnedd gwan.

Mae PA Media wedi gofyn i Tayto Group am ymateb.