Mae Sharon Graham wedi’i hethol fel ysgrifennydd cyffredinol nesaf Uno’r Undeb.

Derbyniodd 5,000 o bleidleisiau yn fwy na Steve Turned ddaeth yn ail, gan olygu mai hi yw’r ddynes gyntaf i’w hethol i’r rôl.

Daeth hi i’r brig gyda 46,696 pleidlais, Steve Turner yn ail gyda 41,833, a Gerard Coyne yn drydydd gyda 35,334.

Bydd Sharon Graham yn cymryd drosodd gan Len McCluskey fel arweinydd un o undebau llafur mwyaf pwerus y Deyrnas Unedig.

Gelyniaethus

Wrth ei llongyfarch, dywedodd Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, ei fod e’n “edrych ymlaen at gydweithio er mwyn gwella bywydau pobol weithiol ar hyd y wlad”.

Sharon Graham sy’n arwain Adran Trefnu a Throsoledd Uno, sy’n arbenigo mewn ymgymryd â chyflogwyr gelyniaethus.

Mae hi wedi arwain anghydfodau diweddar yn British Airways a Crossrail, yn ogystal ag ymgyrchu i sefydlu undeb yng nghwmni Amazon.

Disgrifiodd Sharon Graham ei hun fel “ymgeisydd y gweithwyr”, gan addo mynd ag Uno “yn ôl i’r gweithle”.

Mae hi’n dweud ei bod hi am ailadeiladu’r undeb fel mudiad sy’n darparu’n ddiwydiannol ac yn wleidyddol.

Uno’r Undeb am gael dynes yn ysgrifennydd cyffredinol am y tro cyntaf?

Sharon Graham ar drothwy “buddugoliaeth hanesyddol i’r ymgyrch a’r gweithwyr ym Mhrydain ac Iwerddon”