Mae angen rhagor o nyrsys epilepsi arbenigol yng ngorllewin Cymru.
Daeth yr alwad gan Epilepsi Action Cymru wedi iddi ddod i’r amlwg mai dim ond dwy nyrs epilepsi arbenigol rhan amser sydd ar gael ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda gyfan.
Mae hefyd yn ymddangos bod yn rhaid i gleifion aros hyd at 18 mis ar gyfer apwyntiad gyda niwrolegydd.
Yn ôl Efa Griffiths, 22, ac sy’n byw gyda’r cyflwr mae’r sefyllfa o ran gofal yn “chwerthinllyd”.
“Dw i wedi byw gydag epilepsi ers yn 13 mlwydd oed a bues i’n cael lot o apwyntiadau,” meddai wrth Golwg 360.
Mae Efa yn byw yn yr Hendy yn Sir Gaerfyrddin ac er iddi ganmol ei gofal ers yn blentyn mae’n teimlo bod yna le i’r bwrdd iechyd wella.
“Rwy’n cofio roedd yna rhai achlysuron pan oedd yr arbenigwr yn dost, roedden nhw’n rhoi nyrs nad oedd yn arbenigo ym maes epilepsi i fy ngweld.
Beichiog
“Rwyf newydd orffen yn y brifysgol ac, o wybod nad oes digon o wasanaethau ar gael imi pe bai rhywbeth yn mynd o’i le, mai hynny yn fy ngofidio i.
“Er enghraifft, pe bai i’n syrthio’n feichiog, sydd ddim yn mynd i ddigwydd unrhyw bryd yn y dyfodol agos, ond fe fyddai’n rhaid imi weld nyrs arbenigol yn syth.
“Mae’r ffaith fod yna brinder nyrsys yn rhywbeth sydd yn fy mhoeni os bydd y diwrnod hwnnw’n cyrraedd.
“Byddai’n golygu y byddwn i’n gorfod chwilio ac aros i weld arbenigwr.”
Ar hyn o bryd, mae yna 32,000 o bobl gydag epilepsi yng Nghymru ond dim ond naw nyrs arbenigol sydd ar gael i drin oedolion.
Mae hyn yn cyfateb i 3,500 o gleifion i bob nyrs – y gyfradd sy’n cael ei argymell yw 300 o gleifion ar gyfer pob nyrs.
Technoleg
Mae Efa Griffiths am weld technoleg yn cael ei ddefnyddio i wella gofal pobl sy’n byw gyda’r cyflwr.
“Fel person sydd gyda fy nghyflwr dan reolaeth dw i yn meddwl y dylai fod yna apwyntiadau dros y ffôn,” meddai.
“Mae’r pandemig wedi dangos bod technoleg yn gyfrwng da i wella gwasanaethau.
“Er enghraifft, petai rywbeth yn digwydd i fi efallai na fyddwn i’n gallu gweld rhywun am fisoedd.
“Er bod fy nghyflwr dan reolaeth fe fyddai un galwad ffôn y flwyddyn yn help.”
“Roedd lot o’r cymorth ges i ar yr ochr feddygol a dydw i ddim yn teimlo bod cymaint o gymorth cyffredinol ar gael, yn enwedig wrth imi ddechrau yn y byd gwaith.
“Fi ar fin dechrau cwrs dysgu, sut ydw i fod ymdopi pe byddwn i’n cael trawiad epilepsi o flaen y dosbarth?”
Gofal
Dydy Efa heb weld arbenigwr ers rhai blynyddoedd ond wrth edrych nôl ar ei phrofiadau hoffai weld pethau’n newid er lles y dyfodol.
“Fel plentyn ifanc mae’n bwysig i adeiladu perthynas gyda nyrs.
“Hynny yw, chi’n siarad gyda rhywun am rywbeth personol iawn yn eich bywyd i fynegi eich hun yn glir, felly dydych chi ddim am siarad gyda dieithrin tro ar ôl tro.
“Yn ddelfrydol hoffen i wedi gwneud hynny yn Gymraeg, ond dydw i byth wedi cael arbenigwr sy’n siarad Cymraeg.”
Ymwybyddiaeth
Mae elusen Epilepsi Action Cymru nawr wedi dechrau ymgyrch sy’n galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i benodi nyrs arbenigo i wella darpariaeth yn yr ardal.
Yn ôl Efa Griffiths mae angen codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr er mwyn denu mwyn denu mwy o bobl i arbenigo yn y maes.
“Pan fydd rhywun yn meddwl am epilepsi yn amlach na pheidio maen nhw’n meddwl am oleuadau yn fflachio, ond mae e’n lot fwy diddorol na hynny”
“Mae’n bwnc sy’n edrych ar bethau sy’n ymwneud â’r ymennydd a niwro-fioleg sy’n ddiddorol dros ben i rywun sydd â diddordeb ym maes iechyd neu seicoleg er enghraifft.
“Trwy godi ymwybyddiaeth efallai bod modd newid pethau.”
Ymateb
“Mae’r bwrdd iechyd yn cymryd camau i adolygu’r mynediad presennol at wasanaethau niwroleg a’r capasiti sydd ar gael o fewn ein hadnoddau ar gyfer nyrsus epilepsi arbenigol i ddiwallu anghenion y boblogaeth breswyl,” meddai Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
“Gan gydnabod yr angen i wella’r adnodd nyrsio epilepsi arbenigol sydd ar gael ar hyn o bryd, mae’r bwrdd iechyd wedi penodi Nyrs Arbenigol Epilepsi ychwanegol yn ein gwasanaeth pediatrig yn ddiweddar.
“Rydym hefyd ar hyn o bryd yn recriwtio nyrs arbenigol ychwanegol sydd â diddordeb arbennig mewn anableddau dysgu yn ein tîm nyrsio cymunedol.
“Ar hyn o bryd mae gennym glinig ar y cyd gyda’n bwrdd iechyd cyfagos, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, i gefnogi’r adolygiad o bobl ifanc sydd â chyflyrau cymhleth.
“Yn ogystal, mae gennym ymgynghorydd newydd sy’n gweithio o Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg i adolygu atgyfeiriadau newydd i gleifion.”