Mae cyn hufenfa ger Dinbych, sydd wedi bod ar y farchnad ers tair blynedd, bellach wedi ei gwerthu.
Fe wnaeth ffatri cwmni llaeth Arla gau yn 2018, ac fe gollodd 97 o weithwyr eu swyddi.
Bydd cwmni Procter Johnson, sy’n cynhyrchu sylweddau ar gyfer concrit ac asffalt, yn symud ar y safle yn Llandyrnog ar ôl symud o’u lleoliad presennol yn y Fflint.
Maen nhw’n gobeithio gwneud hynny erbyn Pasg 2022, gan honni eu bod nhw wedi “ehangu tu hwnt i allu’r safle presennol.”
Ar hyn o bryd, mae’r cwmni yn cyflogi 37 o bobl, ac mae ganddyn nhw safleoedd mewn dros 40 o wledydd yn fyd-eang.
‘Dymuno’r gorau’
Fe wnaeth y cynghorydd lleol yn Llandyrnog, Merfyn Parry, gyhoeddi’r newyddion mewn post ar Facebook.
“Yn amlwg, mae hyn yn newyddion gwych i Landyrnog a hen safle’r Hufenfa,” meddai.
“Hoffwn ddymuno’r gorau i Procter Johnson a diolch iddyn nhw am fuddsoddi yn Llandyrnog a Sir Ddinbych.”
‘Tyfu’n sylweddol’
Fe rannodd Merfyn Parry’r llythyr a dderbyniodd gan reolwr gyfarwyddwr Procter Johnson, Harvey Jackson.
“Rydyn ni’n fusnes preifat ac wedi bod ar y safle yn y Fflint ers 1984,” meddai Jackson.
“Dw i wedi gweithio yno ers 1993 ac wedi bod yn rhan o’r tîm rheoli ers 2002.
“Mae’r busnes wedi tyfu’n sylweddol ers 2010 ac rydyn ni bellach wedi ehangu tu hwnt i allu’r safle presennol yn y Fflint.
“Mae safle’r Hufenfa yn rhoi cyfle inni dyfu ymhellach ac i ddiogelu’r busnes tuag at y dyfodol.
“Ar hyn o bryd rydyn ni’n cyflogi 37 o bobl a gobeithio y gallwn ni ehangu ar hyn wrth i’r busnes barhau i dyfu.
“Rydyn ni’n bwriadu gwneud rhywfaint o fuddsoddi sylweddol, yn bennaf mewn offer newydd, ac rydyn ni’n gobeithio bod yn weithredol erbyn y Pasg 2022.”