Fe wnaeth prisiau tai godi’n gynt yng Nghymru na’r un wlad arall yn y Deyrnas Unedig dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dangosa ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, fod prisiau tai yng Nghymru wedi codi 16.7% ers mis Mehefin 2020.

Golyga hyn fod tŷ yng Nghymru bellach yn costio £195,000 ar gyfartaledd.

“Twf misol mawr”

Er bod arwyddion bod y cynnydd sydyn mewn prisiau yn ystod dechrau 2020 wedi dechrau arafu – gan mai cynnydd o 1.4% fu yn ystod yr ail chwarter yng Nghymru – dros y Deyrnas Unedig cynyddodd pris cyfartalog tŷ £11,000 rhwng Mai a Mehefin eleni, sef y twf misol mwyaf erioed.

Dros y Deyrnas Unedig, bu cynnydd o 13.2% mewn prisiau mewn blwyddyn, y cynnydd cyflymaf ers mis Tachwedd 2004.

“Ym Mehefin, bu’r cynnydd blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y Deyrnas Unedig ers 2004,” meddai pennaeth prisiau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Mike Hardie.

“Fodd bynnag, cafodd y ffigwr hwn ei wthio gan dwf misol mawr, gyda phobol ar frys i gwblhau pryniannau cyn i newidiadau i wyliau’r dreth stamp ddod i rym ddiwedd Mehefin.

“Mae prif cyfartalog tŷ yn y Deyrnas Unedig nawr yn £266,000, sydd £31,000 yn uwch na’r amser hwn llynedd.”

“Gwthio prisiau”

“Mae yna newid parhaus mewn chwaeth tuag at fod eisiau eiddo mwy, sy’n newid yr hyn sy’n cael ei werthu ac yn gwthio’r prisiau cyfartalog fyny,” esboniodd Jamie Durham, economegydd gyda chwmni cyfrifeg ac ymgynghori PwC.

“Mae arbedion aelwydydd wedi cynyddu’n sylweddol i nifer yn ystod y pandemig, gan ganiatáu i bobol roi mwy tuag at eu blaendal a chynyddu’r pris maen nhw’n gallu ei fforddio.”

Ystadegau blaenorol

Dangoswyd yr un duedd mewn ystadegau diweddar gan gymdeithas adeiladu Principality – a oedd hefyd yn datgelu fod tai mewn wyth awdurdod lleol, nifer ohonyn nhw yn y Cymoedd, yn ddrytach nag erioed yn ail chwarter 2021. Gallwch ddarllen mwy am hynny isod.

Prisiau tai wedi codi mwy yng Nghymru nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig

“Mae’n afrealistig, yn annheg, ac yn gwbl anghynaladwy,” meddai Mabon ap Gwynfor

Gweithredu

Ddechrau’r wythnos, bu ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith yn dringo i gopaon Crib Goch, Pen y Fan a Charn Ingli er mwyn datgan ‘nad yw Cymru ar werth’, a dywedodd un ymgyrchydd o Gaerdydd wrth golwg360 ei bod hi ddim yn broblem “lan yn y gogledd” yn unig.

Gallwch ddarllen mwy am hynny isod.

“Nid jyst problem lan yn y gogledd” yw’r argyfwng tai, medd ymgyrchydd o Gaerdydd

Cadi Dafydd

“Anfon neges o’r de i’r gogledd ein bod ni’n sefyll gyda’n gilydd” drwy fynd â baner ‘Nid yw Cymru ar Werth’ i gopa Pen y Fan

Roedd y gweithredu yn rhan o ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’ y Gymdeithas, a bydd ralïau’n cael eu cynnal yn Nhrefdraeth a Chaerdydd yn yr hydref er mwyn datgan pryder am y sefyllfa a chynyddu’r pwysau ar Lywodraeth Cymru.

Rhybuddiodd un ymgyrchydd fod ail gartrefi yn “rhwygo’r galon” allan o gymunedau Sir Benfro, a bod angen gweithredu “radical” i fynd i’r afael â’r sefyllfa. Gallwch ddarllen y sylwadau hynny isod.

Ail gartrefi yn “rhwygo’r galon” allan o gymunedau Sir Benfro, medd ymgyrchydd

Gwern ab Arwel

Bu ymgyrchwyr yn dringo mynydd Carn Ingli yn Sir Benfro fel rhan o ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’