“Fe allan nhw gael eu lladd yn y modd mwyaf erchyll… trwy gael eu saethu drwy eu pennau hyd yn oed,” meddai brodor o Affganistan wrth Golwg360.

Fe ddaeth Abdullah i’r Deyrnas Unedig o Affganistan yn Awst 2015 fel ceisiwr lloches gan dreulio dwy flynedd yn ne-ddwyrain Cymru, ond bellach mae’n byw yn Lloegr.

“Neithiwr fe ddaeth aelodau o’r Taliban i mewn i dŷ fy nheulu gan ymosod ar fy nhad sy’n hen ddyn ac sydd heb wneud dim byd o’i le,” meddai.

Mae’n meddwl mai’r rheswm i’w dad gael ei dargedu oedd oherwydd ei swydd, ac mae Abdullah am gadw hynny’n gudd er mwyn ei ddiogelu.

“Dw i’n ofni taw dyna’r alwad ffôn olaf.”

Yn ddagreuol fe esboniodd Abdullah efallai na fyddai’n cael siarad gyda’i deulu byth eto.

“Bore ma fe ddywedodd fy mrawd wrthyf i beidio â chysylltu eto oherwydd mae’n bosib eu bod nhw [y Taliban] yn gwrando ar ein sgyrsiau.

“Er hyn, rydw i wedi ceisio cysylltu â fe eto’r prynhawn yma, ond dydy e heb ateb y ffôn ac maen nhw [ei frodyr] wedi diffodd eu cyfrifon Facebook.

“Dw i’n ofni mai dyna’r alwad ffôn olaf.”

Sefyllfa angheuol

Gyda’r Taliban yn ennill tir yn Affiganistan dros yr wythnosau diwethaf, mae’n poeni am sefyllfa ei frodyr fel cyn-weision sifil yn y llywodraeth.

“Roedd fy mrodyr i’n gweithio i Lywodraeth Affganistan ac mae nhw wedi derbyn llythyron a galwadau ffôn yn eu bygwth,” meddai Abdullah.

“Mae’r Taliban wedi dweud wrth weithwyr y llywodraeth fod ganddynt amnesty os ydynt yn ildio i’r Taliban.

“Fe wnes i dderbyn lluniau gan fy mrodyr neithiwr o filwyr y Taliban o flaen ein tŷ, ar y stryd ac mae ganddynt bellach reolaeth.”

Mae am gadw lleoliad ei fagwraeth a’i enw llawn yn anhysbys er mwyn diogelu ei deulu a’i ffrindiau sy’n byw yno.

Poeni am ddyfodol ei deulu

Mae’n erfyn ar bobl i wylio’r newyddion ac i gymryd yr hyn sy’n digwydd yn Affganistan o ddifrif.

“Rydw i’n gegrwth am y sefyllfa, rydw i’n cael hi’n anodd meddwl am y dyfodol”

“Dydw i heb gysgu’n iawn mewn wythnos. Bob dydd rwy’n siarad gyda fy mrodyr gan ofyn sut mae dad, sut mae mam, sut mae gweddill y teulu,” meddai gan grybwyll ei nithoedd, un sy’n ddwy a hanner ac un sy’n flwydd oed.

“Mae miliynau o bobl yn ofni, ry’n ni gyd wedi gweld y lluniau o’r bobl yna yn syrthio o’r awyren.

“Dyma yw’r realiti yn Affganistan a dyma beth mae pobl sydd mor anobeithiol yn barod i’w wneud.”

“Rydw wedi bod yn crïo, mae e allan o fy rheolaeth, dydw i ddim yn gallu gwneud dim byd.

Ceisio lloches ym Mhrydain

Mae Boris Johnson wedi rhoi addewid y bydd hyd at 5,000 o bobl Affganistan yn cael lloches yn y DU eleni, gyda hyd at 20,000 yn y tymor hir, ac mae Mark Drakeford hefyd wedi dweud bod Cymru yn ‘noddfa’ i ffoduriaid o Affganistan.

“Dwi yma ym Mhyrdain ac maen nhw yn Affganistan ac rwy’n teimlo mor, mor flin drostyn nhw,” meddai Abdullah.

“Rydw i am weld nhw yma yn ddiogel”

“Hoffwn i weld os gall Llywodraeth Cymru wneud rhywbeth hyd yn oed fel bod modd dod â nhw i Gymru er mwyn eu bod yn ddiogel.

“Hyd yn oed os yw hynny dros dro, yn amodol os oes angen, ac os bydd pethau byth yn gwella fe allant ddychwelyd.”

“Ond dydw i byth yn meddwl y gallaf i ddychwelyd i fy mamwlad”

Mae Abdullah yn cysylltu gyda nifer o elusennau ac Aelodau Seneddol er mwyn ceisio dwyn sylw at sefyllfa ei deulu.

20,000 o ffoaduriaid Affganistan i gael lloches yn y Deyrnas Unedig

Boris Johnson wedi rhoi addewid y bydd hyd at 5,000 o bobl Affganistan yn cael lloches yn y DU eleni

Cynghorau Cymru yn croesawu ffoaduriaid o Affganistan

Gohebydd Golwg360 a Gohebyddion Democratiaeth Leol

“Fyddwn i ddim eisiau gweld mewn mis fod nifer o unigolion a theuluoedd yn cael eu lladd yn Affganistan pan roedd gennym ni’r cyfle i helpu nhw”