Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan AoS, wedi croesawu £551 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i ddelio efo Covid.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £411 miliwn ar gyfer costau parhaus o ddelio â’r pandemig hyd at Ebrill 2022, a £140 miliwn i fynd i’r afael ag amseroedd aros.
Bydd y £411 miliwn yn mynd tuag at bethau fel y rhaglen frechu, profi, cyfarpar diogelu personol, a safonau glanhau newydd.
Fe fydd arian hefyd yn mynd tuag at gefnogi cynlluniau adfer byrddau iechyd, gan gynnwys cyflymu triniaeth y rhai sydd wedi bod yn aros yr amser hiraf.
“Ers dechrau’r pandemig, mae’r rhestrau aros wedi cynyddu dros 33% ac wedi cyrraedd lefel na welwyd o’r blaen,” meddai Eluned Morgan wrth gyhoeddi’r cyllid.
Mae’r arian sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (19 Awst) yn ychwanegol i’r £100 miliwn o gyllid a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mai i gefnogi cynllun adfer Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
“Effaith enfawr”
“Mae pandemig Covid wedi cael effaith enfawr ar y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ac maen nhw’n dal i wynebu costau sylweddol wrth iddyn nhw ddelio â’i effaith,” meddai’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan.
“Felly’n rwy’n falch o gadarnhau £411m ychwanegol ar gyfer y costau hyn, gan gynnwys y rhaglen frechu, profi, cyfarpar diogelu personol, a safonau glanhau newydd ar gyfer rheoli haint.
“Mae sgil-effaith delio â’r pandemig hefyd wedi bod yn enfawr. Mae rhestrau aros wedi cynyddu dros 33% ac maen nhw nawr ar lefelau na welwyd o’r blaen.
“Bydd yn cymryd amser i ddychwelyd i ble roedden ni cyn y pandemig a bydd angen buddsoddi mewn ffyrdd newydd o weithio. Felly, rydym hefyd yn darparu £140m ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd ar gyfer y gwaith hwn.
“Bydd £100m yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cynlluniau adfer byrddau iechyd, gan gynnwys cyflymu triniaeth y rhai sydd wedi bod yn aros yr amser hiraf. Bydd £40m ar gael ar gyfer cyfarpar ac addasu ysbytai ac adeiladau eraill i gynyddu capasiti ar gyfer triniaethau rheolaidd, tra’n parhau i gynnal mannau diogel o ran Covid.
“Rwy’n cydnabod ei bod yn dasg enfawr i hyd yn oed fynd yn ôl i ble roedden ni cyn y pandemig. Fodd bynnag, rhaid inni hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio a chreu system iechyd a gofal cymdeithasol gynaliadwy sy’n gallu ateb galwadau’r dyfodol.”
“Cymorth hanfodol”
Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AoS, fod yr arian sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn rhan o becyn o gyllid i helpu adferiad Cymru.
“Bydd y cyllid hwn yn helpu i gynyddu capasiti yn ein hysbytai ac fe fydd o gymorth hanfodol i helpu’r Gwasanaeth Iechyd i symud ymlaen y tu hwnt i’r pandemig,” meddai.
“Mae’r arian yn rhan o becyn ehangach o gyllid a fydd yn cael ei wario dros y misoedd nesaf i’n helpu i greu’r Gymru decach, wyrddach, gryfach a mwyfwy llwyddiannus yr ydym ni i gyd ei heisiau i’n hunain ac i’n gilydd.”