Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cydnabod a derbyn canfyddiadau cwestau ymgyrch Jasmine.

Yn ôl ar Arolygiaeth, fe wnaeth y cwestau “daflu goleuni” ar yr effaith mae arweinyddiaeth a rheolaeth wael yn ei chael ar ddiwylliant sefydliad, gan effeithio ar ddiogelwch a llesiant.

Roedd ymgyrch Jasmine yn ymchwiliad hanesyddol gan Heddlu Gwent i honiadau o esgeuluso mewn nifer o gartrefi nyrsio yn y de-ddwyrain rhwng 2005 a 2013.

Dechreuodd o ganlyniad i glwstwr o farwolaethau mewn cartrefi gofal yng Ngwent oedd yn gysylltiedig â briwiau pwysau.

Cwestau

Bu’n destun adolygiad annibynnol gan Margaret Flynn, Cadeirydd y Brdd Diogelu Cenedlaethol yng Nghymru, ac ym mis Ionawr eleni cychwynnodd cwestau i farwolaethau saith person oedd yn byw yng nghartref gofal Brithdir.

Archwiliodd y Crwner y gofal yn y cartref, a rôl asiantaethau’r wladwriaeth yn goruchwylio’r gwaith a rheoleiddio’r cartref.

Roedd hyn yn cynnwys Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (sef rhagflaenydd Arolygiaeth Gofal Cymru), Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili ar y pryd, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Daeth y crwner i’r casgliad y bu i esgeulustod gyfrannu at farwolaethau pump o’r bobol, ac roedd yn feirniadol o fethiannau staff, perchennog, a rheolwyr cartref Brithdir.

Disgrifiodd y dystiolaeth ddiwylliant yn y cartref lle’r oedd y preswylwyr yn cael eu “storio” a’u “dad-ddyneiddio”, a lle nad oedd tasgau sylfaenol fel darparu bwyd a diod yn cyrraedd y safonau gofynnol.

Daeth y Crwner i’r casgliad fod asiantaethau’r wladwriaeth, gan gynnwys Arolygiaeth Gofal Cymru, wedi canolbwyntio’n ormodol ar brosesau, a bod cyfleoedd wedi’u colli i weithredu’n gynt.

Er hynny, fe wnaeth gydnabod fod gweithwyr yr asiantaethau hynny yn gweithio hyd eithaf eu gallu, o dan amodau eithriadol o anodd, a’u bod wedi’u rhwystro gan y ddeddfwriaeth oedd mewn grym ar y pryd.

“Newidiadau sylweddol”

Yn adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru, Gillian Baranski, mae’r corff yn derbyn canfyddiadau’r Crwner ac am roi sicrwydd bod gwersi wedi’u dysgu yn sgil y digwyddiadau.

“Rydym yn cydnabod ac yn derbyn canfyddiadau’r Crwner yn y cwestau, ac yn awyddus i roi sicrwydd i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal heddiw fod y gyfraith wedi’i newid o ganlyniad uniongyrchol i’r digwyddiadau trasig hyn er mwyn rhoi mwy o bŵer i ni weithredu’n gyflym a chymryd camau cadarn pan fo angen,” meddai Arolygiaeth Gofal Cymru mewn datganiad.

“Yn dilyn y digwyddiadau’n ymwneud ag Ymgyrch Jasmine, gwnaed newidiadau sylweddol i wasanaethau gofal cymdeithasol a rheoleiddio yng Nghymru, yn ogystal ag i’r ffordd y mae’r rheolwyr yn gweithredu.

“Llywiwyd y newidiadau hyn gan y gwersi a ddysgwyd o Ymgyrch Jasmine ac argymhellion adolygiad Flynn.”

“Atebolrwydd”

Cafodd deddf newydd ei chyflwyno yn 2016 er mwyn rhoi pobol wrth wraidd rheoleiddio gofal cymdeithasol, a chanolbwyntio ar eu canlyniadau personol.

“Mae’n rhoi atebolrwydd am ansawdd y gofal yn gadarn ar y lefel uchaf yn sefydliad y darparwr ac yn galluogi’r rheoleiddiwr i gymryd camau cyflym pan fydd pethau’n mynd o chwith,” meddai Arolygiaeth Gofal Cymru

“Mae ein ffyrdd o weithio hefyd wedi newid yn sylweddol ers y digwyddiadau hyn, ac mae dulliau newydd o arolygu a llwybr gorfodi blaengar a chymesur wedi’u cyflwyno i sicrhau y cymerir camau yn gyflym pan fydd methiannau mewn gofal.

“Mae diogelwch a llesiant y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal wrth wraidd popeth a wnawn, ac ansawdd gofal yw ein prif flaenoriaeth. Ni fyddwn yn goddef gofal gwael a byddwn yn cymryd camau i amddiffyn pobl pan fo angen.

“Rhaid i ni beidio byth â bod yn hunanfodlon, ac rydym yn ymrwymedig i wrando, dysgu a gwella’n barhaus,” ychwanegodd.

“Felly, byddwn yn cynnal digwyddiadau myfyrio a dysgu gyda’n staff ein hunain a chyda rhanddeiliaid a phartneriaid yn ystod y misoedd i ddod, er mwyn sicrhau na chaiff y gwersi a ddysgwyd o Ymgyrch Jasmine eu hanghofio.

“Taflodd cwestau Ymgyrch Jasmine oleuni ar yr effaith y mae arweinyddiaeth a rheolaeth wael yn ei chael ar ddiwylliant sefydliad ac, yn ei dro, yr effaith ar ddiogelwch a llesiant y bobl sy’n cael gwasanaeth.

“Arweiniodd diwylliant negyddol yng nghartref gofal Brithdir at amgylchedd o esgeulustod, camdriniaeth a thorri hawliau dynol pobl.”

Camdriniaeth cartref gofal wedi cyfrannu at farwolaeth preswylwyr

Crwner yn crynhoi cwest i farwolaethau chwech o gyn-drigolion cartref gofal yn Nhredegar Newydd