Mae’n ymddangos bod dau ddos o frechlyn Pfizer/BioNTech yn fwy effeithiol nag AstraZeneca Rhydychen wrth frwydro yn erbyn yr amrywiolyn Delta.
Ond mae ei effeithlonrwydd hefyd yn lleihau’n gynt, yn ôl gwyddonwyr ym Mhrifysgol Rhydychen.
Ar ôl pedwar neu bum mis, mae lle i gredu bod yr amddiffyniad gan y ddau frechlyn yn debyg, gydag effeithlonrwydd AstraZeneca yn aros yn gyson drwyddi draw.
Mae’n ymddangos hefyd fod gan y rhai sy’n cael eu heintio ag amrywiolyn Delta lefelau brig tebyg i’r rheiny sydd heb eu brechu.
Mae’r gwyddonwyr yn dweud bod eu hymchwil yn dangos, er nad yw brechlynnau’n dileu’r tebygolrwydd o gael Covid-19 yn llwyr, eu bod nhw’n lleihau’r perygl ac mai dyma’r ffordd orau o warchod rhag amrywiolyn Delta.
Ansicrwydd o hyd
“Dydyn ni ddim yn gwybod eto faint o drosglwyddo sy’n gallu digwydd gan bobol sy’n cael Covid-19 ar ôl cael eu brechu – er enghraifft, mae’n bosib fod ganddyn nhw lefelau uchel o feirws am gyfnod byrrach o amser,” meddai Sarah Walker, Athro Ystadegau Meddygol ac Epidemioleg ym Mhrifysgol Rhydychen.
“Ond mae’r ffaith y gallan nhw gael lefelau uchel o feirws yn awgrymu nad yw pobol sydd heb eu brechu eto yn cael cymaint o amddiffyniad rhag amrywiolyn Delta ag yr oedden ni wedi’i obeithio.
“Mae hyn yn golygu ei bod hi’n hanfodol fod cynifer o bobol â phosib yn cael eu brechu – yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd.”
Yr astudiaeth
Cafodd yr astudiaeth ei chynnal ar y cyd â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Edrychodd ar ddata’r Holiadur Haint Covid-19 rhwng mis Rhagfyr y llynedd a mis Awst eleni.
Cafodd profion mwy na 700,000 o bobol cyn ac ar ôl mis Mai eu dadansoddi, sef y cyfnod cyn ac ar ôl i amrywiolyn Delta gyrraedd y Deyrnas Unedig.
Lle’r oedd lefelau uchel o feirws, roedd amddiffyniad ar ôl ail ddos o Pfizer 90% yn uwch nag ar gyfer rhywun heb ei frechu, ac roedd yn gostwng i 85% ar ôl deufis a 78% ar ôl tri mis.
Ar gyfer AstraZeneca, y ffigurau cyfatebol oedd 67%, 65% a 61%.
Daeth y gwyddonwyr i’r casgliad fod un dos o frechlyn Moderna yn debyg o ran ei effeithlonrwydd i’r brechlynnau eraill, ond does dim data ar gyfer ail ddos.
Dangosodd yr astudiaeth hefyd nad oes gwahaniaeth faint o amser sydd rhwng y ddau ddos wrth edrych ar eu heffeithlonrwydd, a bod gan bobol 18-34 oed fwy o amddiffyniad na phobol hŷn (35-64 oed) wrth gael eu brechu.
Dydy hi ddim yn glir eto a fydd yr astudiaeth hon yn cyfrannu at raglen frechu newydd yn yr hydref, wrth i’r Gwasanaeth Iechyd baratoi i gynnig trydydd dos o fis Medi.