Mae’r Arlywydd Joe Biden yn dweud y bydd milwyr ei wlad yn aros yn Affganistan tan bod pob Americanwr wedi gadael.
Roedd disgwyl i filwyr adael y wlad erbyn Awst 31, ond gall y terfyn hwnnw gael ei ymestyn yn dilyn gweithredoedd diweddar y Taliban.
Er hynny, dywed yr arlywydd y byddai America’n gwneud “popeth yn ein gallu” i sicrhau bod pawb yn gadael cyn y dyddiad hwnnw yn sgil beirniadaeth dros y ffordd mae ei weinyddiaeth wedi cynllunio at y sefyllfa hon.
Yn ddiweddar, fe ddywedodd Lloyd Austin, Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, nad oedd gan y fyddin y gallu i symud tu hwnt i faes awyr Kabul, a bod llawer wedi cael eu rhwystro rhag mynd yno gan y Taliban.
“Does gennym ni ddim y gallu i fynd allan ac ehangu ein gweithredoedd yn Kabul,” meddai.
“Dydyn ni methu â fforddio peidio amddiffyn y maes awyr, gan fod cannoedd ar filoedd o drigolion yn ceisio cael mynediad yma.”