Mae saith ymgyrchydd o blaid democratiaeth yn Hong Kong wedi pledio’n euog i drefnu protestiadau yn 2019.
Roedd anhrefn yn y dalaith ar ôl i’r llywodraeth gyflwyno deddf ar droseddau, gyda phobol yn pryderu eu bod yn dechrau dod yn nodweddiadol o gyfreithiau Tsieina.
Roedd yr ymgyrchwyr yn cynnwys rhai o wrthwynebwyr mwyaf blaenllaw’r ddeddf, Rachael Wong, cyn-gadeirydd plaid wleidyddol, a Figo Chan, arweinydd grŵp protest.
Rhain yw’r diweddaraf i ymddangos gerbron llys, gydag ambell ymgyrchydd eisoes yn y carchar.
Anufudd-dod sifil
Dywedodd Rachael Wong, cyn-gadeirydd Cynghrair y Democratiaid Cymdeithasol, eu bod nhw’n cadw at eu hegwyddorion drwy brotestio.
“Roedden ni’n protestio ar sail egwyddorion anufudd-dod sifil, ac un o elfennau allweddol hynny yw derbyn y cyhuddiadau,” meddai.
“Dyna beth fyddwn ni’n ei wneud yn hwyrach ymlaen drwy bledio’n euog.
“Elfen allweddol arall yw fod y bobol sy’n cyflawni gweithredoedd anufudd-dod sifil yn gwybod mai dim ond rhan o’r broses yw cael eu carcharu.
“Dydyn ni ddim yn poeni am gael ein carcharu, ond yn hytrach, rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni gyflawni democratiaeth fel rhan o’r broses hon.”