Mae dyn 49 oed sy’n hanu o Sir Benfro wedi bod gerbron llys i wynebu cyhuddiadau o greu gwefan a phodlediad hiliol a gwrth-Semitaidd.

Fe wnaeth James Allchurch sefydlu’r wefan ‘Radio Aryan’ er mwyn creu a dosbarthu podlediadau oedd yn lladd ar bobol groenddu ac Iddewon, ac mae wedi’i gyhuddo o gyhoeddi deunydd ar y safle yn honni bobol pobol ddu a phobol wyn mewn brwydr hiliol.

Roedd y wefan hefyd yn cynnwys ystrydebau am yr Iddewon.

Aeth gerbron Llys Ynadon Hwlffordd, gan ofyn i’r llys ei gyfarch fel “Sven Longshanks”, gan mai dyma’r enw mae’n ei ddefnyddio wrth “gyhoeddi gwaith oes”.

Fe wnaeth e wadu 15 cyhuddiad o ddosbarthu recordiad sain gyda’r bwriad o ennyn casineb hiliol cyn neu ar Dachwedd 2019.

Clywodd y llys fod Radio Aryan yn weithredol ers 2015, bod 12 o’r cyhuddiadau’n ymwneud â phobol ddu neu o dras leiafrifol arall a bod y tri arall yn ymwneud â gwrth-Semitiaeth.

Cafodd yr achos ei drosglwyddo i Lys y Goron Abertawe, a bydd gwrandawiad pellach ar Fedi 15.

Cafodd James Allchurch ei ryddhau ar fechnïaeth yn y cyfamser.