Bydd cyfnod datgan diddordeb yn y Grant Busnes i Ffermydd yn agor ar Fedi 1.

Mae’r Ysgrifennydd Materion Gwledig wedi cyhoeddi y bydd cyllideb o £2m ar gael ar gyfer ffermwyr sy’n dymuno buddsoddi mewn technoleg newydd i wella eu perfformiad technegol, ariannol ac amgylcheddol.

Mae’r gyllideb ar gyfer y grant yn dod o arian oedd dros ben o’r Rhaglen Datblygu Gwledig.

Bydd modd dangos diddordeb tan Hydref 1, a bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus bedwar mis i brynu eitemau gyda’r grant.

Grantiau

Fe gyhoeddodd Lesley Griffiths y grantiau wrth iddi ymweld â Sioe Amaethyddol Sir Benfro.

“Mae hon yn wythnos bwysig yn y calendr ffermio, gan ein bod yn gallu cwrdd wyneb yn wyneb yn Sioe Sir Benfro,” meddai.

“Er bod y digwyddiad eleni rywfaint yn wahanol i sioeau yn y gorffennol, rwyf wrth fy modd ei bod yn cael ei chynnal.

“Mae hefyd yn bleser gen i gyhoeddi ein bod yn agor cyfnod ar gyfer datgan diddordeb yn y Grant Busnes i Ffermydd.

“Rwy’n gwybod y bydd llawer o bobol yn croesawu’r newyddion hwn.

“Hoffwn i annog ffermwyr sydd â diddordeb ddechrau meddwl am y gwelliannau hoffen nhw eu gwneud, a sut gallai’r grant eu helpu, fel y gallan nhw gyflwyno datganiad o ddiddordeb cryf o fewn yr amserlenni sy’n diwallu eu hanghenion.”