Mae’r Taliban wedi cyhoeddi ar Ddiwrnod Annibyniaeth Affganistan eu bod nhw wedi llwyddo i drechu “grym trahaus arall”, sef yr Unol Daleithiau.
Bellach, maen nhw’n ystyried eu hunain fel y rhai sydd â rheolaeth dros y wlad, er bod gwrthwynebiad cryf yn rhyngwladol ac ar lawr gwlad.
Mae’r wlad yn wynebu heriau economaidd dybryd wrth i wledydd wrthod mewnforio yno.
Yn ogystal, mae’n debyg y bydd mwy o wrthsafiadau arfog yn codi.
Dydy’r Taliban heb ddatgan eto beth yw eu hamcanion gwleidyddol yn Affganistan, heblaw eu bod nhw am weithredu cyfraith ddadleuol Sharia.
Ar Ddiwrnod Annibyniaeth Affganistan, sy’n dathlu diddymu rheolaeth Prydain yn 1919, fe roddodd y Taliban ddatganiad i’r cyhoedd.
“Yn ffodus, heddiw rydyn ni’n dathlu pen-blwydd ein hannibyniaeth o Brydain,” meddai.
“Rydyn ni ar yr un pryd, o ganlyniad i’n gwrthsafiad, wedi gorfodi grym trahaus arall, yr Unol Daleithiau, i encilio o’n tiriogaeth sanctaidd yn Affganistan.”