Mae aelod blaenllaw o Blaid Cymru wedi beirniadu Adam Price, gan alw am arweinydd newydd.

Wrth siarad ar raglen Newyddion S4C, fe ddywedodd Arfon Jones, cyn-Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd, ei fod yn anhapus gydag arweinydd y blaid.

Daw ei sylwadau wedi i’r cyn-arweinydd Leanne Wood ddweud nad oedd hi ac Adam Price “wedi bod yn ffrindiau ers blynyddoedd” ers iddo ei herio am arweinyddiaeth y blaid yn 2018.

“Rwy’n cytuno gyda’r hyn ddywedodd Leanne,” meddai Arfon Jones.

“Rwy’n credu i ni gymryd cam yn ôl yn etholiad 2021 er i ni ennill un sedd yn ychwanegol.

“Credaf fod y strategaeth yn anghywir ar gyfer Mai 2021… ymgais at ymgyrch ‘arlywyddol’ benben gyda Mark Drakeford pan oedd Mark Drakeford, fel y gwyddom, yn boblogaidd iawn yn dilyn llwyddiant yr ymateb i Covid.”

“Yn bersonol, dydw i ddim [yn hapus gyda’r arweinydd presennol].

“Rwy’n credu ei bod yn amser newid arweinydd. Dydw i ddim yn siŵr i ba gyfeiriad yr y’n ni’n mynd.

“Roedd ein maniffesto yn un hir iawn, ac ychydig o bobol oedd yn gwybod beth oedd ynddo, gan gynnwys fi.”

Leanne Wood

Wrth siarad ar bodlediad BBC Walescast, dywedodd Leanne Wood fod amseriad Adam Price a’r modd y gwnaeth ei herio yn benderfyniad gwael.

“Dydw i ddim yn teimlo ei fod wedi’i wneud yn gywir mewn gwirionedd ac mae’n debyg bod hynny’n rhan o’r rheswm pam ei fod wedi bod yn eithaf anodd,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn ffrindiau nawr. Dydyn ni ddim wedi bod yn ffrindiau ers blynyddoedd.”

Ychwanegodd Leanne Wood fod y blaid wedi mynd am yn ôl ers hynny.

Methodd y blaid â gwneud cynnydd pellach yn etholiad y Senedd ym mis Mai.

Cafodd y Rhondda ei cholli, ac fe lithrodd y blaid ar y cyfan i’r drydedd plaid y tu ôl i’r Ceidwadwyr, er iddi ennill un sedd ychwanegol.

Mae Plaid Cymru wedi gwrthod gwneud sylw.