Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o ffrwgwd yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Llanedeyrn neithiwr (nos Fercher, Awst 18), yn dilyn adroddiadau bod gan ddynes gyllell a’i bod hi’n gwneud bygythiadau.

Cafodd y ddynes 47 oed ei harestio a’i chludo i’r ddalfa i gael ei holi.

Yn ôl yr heddlu, chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad.