Mae cwest wedi clywed bod Jake Davison wedi saethu pump o bobol yn farw yn Plymouth ar ôl ffraeo efo’i fam.

Fe wnaeth Jake Davison, 22, ladd ei fam, Maxine Davison, 51, yn ei chartref cyn mynd allan a saethu pedwar person arall mewn deuddeg munud ar Awst 12.

Saethodd Jake Davison, a oedd yn brentis gweithredu craeniau, ei hun cyn i heddlu arfog ei gyrraedd.

Yn ystod gwrandawiad deng munud, fe wnaeth Ian Arrow, uwch-grwner Plymouth, Torbay a De Ddyfnaint, agor y cwest i farwolaethau’r rhai gafodd eu saethu yn ffurfiol, ac fe wnaeth yr heddlu eu hadnabod a rhoi tystiolaeth am amgylchiadau bras eu marwolaethau.

Dywedodd y Ditectif Steve Hambly, uwch-swyddog ymchwilio, wrth y gwrandawiad fod y pump wedi marw o ganlyniad i anafiadau gan fwledi, a’u bod nhw’n disgwyl canlyniadau profion histoleg a thocsicoleg.

Bu farw Mrs Davison yn ei chartref yn Biddick Drive yn ardal Keyham o’r ddinas, meddai.

“Amgylchiadau ei marwolaethau yw fod Maxine wedi cael anafiadau angheuol gan fwled yn dilyn ffrae gyda’i mab,” meddai wrth y llys.