Fe fydd cystadleuaeth newydd sbon ar gael i ddramodwyr Cymraeg – diolch i griw Cymdeithas Drama Gymraeg Abertawe.

Mae’r Gymdeithas yn cydweithio gyda Grand Ambition, grŵp cydweithredol newydd yn Theatr y Grand Abertawe, ar fenter i hybu cystadleuaeth i ddramodwyr Cymraeg.

Enw’r fenter yw Grandramodi, a’r bwriad yw rhoi hwb i’r ddrama Gymraeg a chefnogi dramodwyr trwy fentora proffesiynol.