Bu cannoedd yn gorymdeithio trwy dref Machynlleth y Sadwrn diwethaf, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Roedd y rali ddeuddydd cyn Diwrnod Owain Glyndŵr, ac ym Machynlleth y bu i dywysog annibynnol ola’r Cymry gynnal ei Senedd.