Roedd hi wedi bwrw ers dyddiau. Y math o law sy’n taflu llu o ddiferion boliog, trwm ar y byd, glaw oedd yn codi twrw ar y ffenestri a’r palmentydd. Crëwyd nentydd bychain newydd sbon ar hyd Wtra’r Efail, fel gwreiddiau’r hydref yn ymestyn dros y pentref.