Mae’r mis mêl o wrando ar y cyhoedd wedi dod i ben. Ond sut fydd Prif Weinidog Cymru yn gwireddu ei blaenoriaethau a hithau heb fwyafrif?
Wedi haf o gymylau, glaw, a chorwynt ym myd gwleidyddol Cymru, ffwrdd â ni yn ôl i fwrlwm Seneddol ym Mae Caerdydd yr wythnos hon.
Daeth y Prif Weinidog newydd Eluned Morgan yn ôl i’r siambr ar gyfer ei sesiwn cyntaf Cwestiynau i’r Prif Weinidog ddydd Mawrth, ac i amlinellu ei blaenoriaethau.