Hoffem ymateb i golofn Huw Onllwyn yr wythnos ddiwethaf, ‘Hamas yw’r Broblem’ [Golwg 12/09/24]. Roedd yn gryn syndod iddo lwyddo i drafod y sefyllfa ym Mhalesteina heb gyfeirio unwaith at yr adroddiadau damniol niferus sydd wedi’u cyhoeddi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ynglŷn ag ymddygiad Israel yn Gaza a’r Lan Orllewinol. Soniodd o ddim chwaith fod degau o filoedd o Israeliaid (gan gynnwys teuluoedd gwystlon) wedi bod yn gwrthdystio ar y strydoedd yno yn ddiweddar gan ddatgan y