Mae’r Cyngor Llyfrau eisiau ail-frandio’r Stori Sydyn a thargedu darllenwyr prysur, nid rhai ‘anfoddog’…

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn galw ar ddarllenwyr Cymru i wneud ‘Her yr Hydref’ – a gorffen llyfr bob wythnos am fis cyfan. A’r llyfrau delfrydol ar gyfer hynny, yn ôl y Pennaeth Hyrwyddo Darllen, yw un o’r gyfres Stori Sydyn, sef llyfrau byrion sydd ar werth am £1.