Welodd Gwilym Dwyfor erioed law tebyg i’r hyn gafwyd draw yn ninas Niksic, ac mae’n dweud ei bod yn wyrth i gêm bêl-droed gael ei chynnal yn y ffasiwn dywydd…

Cafodd Craig Bellamy ddechrau da i’w gyfnod wrth y llyw fel rheolwr tîm pêl-droed dynion Cymru gyda phedwar pwynt o ddwy gêm agoriadol yr ymgyrch ddiweddaraf yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Dechreuodd y cyfan gyda phwynt clodwiw gartref yn erbyn Türkiye yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Wener y chweched o Fedi.