Roedd y gwynt yn hwyliau’r Democratiaid Rhyddfrydol wrth iddyn nhw gynnal eu cynhadledd flynyddol yn Brighton…

Mae’r tymor cynadleddau gwleidyddol wedi cychwyn gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dychwelyd i arfordir de Lloegr a Brighton brydferth wrth y lli.

I unrhyw un oedd yn dilyn yr ymgyrch etholiad cyffredinol yn fanwl, mae’n siŵr eich bod yn hapus iawn bod cyffro sylweddol Syr Ed Davey yn ôl ar y sîn.