Mae’r awdur, bardd a chyfieithydd 47 oed yn byw yn ardal y Bala gyda’i mab a’i rhieni.

Enillodd ei nofel gyntaf, Y Trydydd Peth, y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala ac mae hi yn golofnydd, athrawes ioga a darlithydd Ysgrifennu Creadigol yn The American University of Paris.